Y Grawys

Defod yn y calendr litwrgaidd Cristnogol yw'r Grawys (hefyd Garawys) .

Mae'n dechrau ar Ddydd Mercher y Lludw ac yn dod i ben tua chwe wythnos yn ddiweddarach, cyn Sul y Pasg. Pwrpas y Grawys yw paratoi'r crediniwr ar gyfer y Pasg trwy weddi, penyd , darostwng y cnawd, edifeirwch pechodau, ymbil, a gwadu'r hunan . Gwelir y digwyddiad hwn yn yr Eglwysi Anglicanaidd, Uniongred Dwyreiniol, Lutheraidd, Methodistaidd, Morafaidd, Diwygiedig, Eglwysi'r Tri Cyngor a'r Eglwys Babyddol. Mae rhai eglwysi Ailfedyddiedig ac Efengylaidd hefyd yn cadw'r Grawys.

Mae'n ymddangos mai 'Caraŵys' oedd ffurf wreiddiol y gair 'Grawys', a'i fod wedi tarddu o'r Lladin Quadragesima sy'n golygu 'deugeinfed'. Daw'r enghraifft gynharaf ohono yn y Gymraeg o'r 12g ac mae ffurfiau tebyg iddo i'w cael mewn ieithoedd Celtaidd eraill: 'koraiz' yn Llydaweg a 'corgus' mewn Hen Wyddeleg.

Yr Wythnos Sanctaidd, gan ddechrau gyda Sul y Blodau, yw wythnos olaf y Grawys. Yn dilyn hanes y Testament Newydd, mae croeshoeliad Iesu yn cael ei goffáu ar ddydd Gwener y Groglith, ac ar ddechrau'r wythnos nesaf mae llawenydd Sul y Pasg yn cofio Atgyfodiad Iesu Grist.

Dros gyfnod y Grawys, byd llawer o Gristnogion yn ymrwymo i ymprydio, yn ogystal ag ildio rhai danteithion a moethusbethau er mwyn adlewyrchu yr aberth a wnaeth Iesu Grist pan aeth i'r anialwch am 40 diwrnod; caiff hyn ei adnabod fel aberth y Grawys. Mae llawer o Gristnogion hefyd yn cyflwyno elfennau o ddisgyblaeth ysbrydol dros gyfnod y Grawys, fel darllen defosiynol dyddiol neu weddïo trwy galendr y Grawys, i ymagosáu at Dduw. Mae Gorsafoedd y Groes, sef coffâd defosiynol o Grist yn cario'r Groes ac o'i ddienyddiad, hefyd yn aml yn rhan o'r Grawys. Mae llawer o eglwysi Pabyddol a rhai eglwysi Protestannaidd yn tynnu blodau o'u hallorau, a chroesau, cerfluniau crefyddol, a symbolau crefyddol cywrain eraill yn cael eu cuddio dan ddeunydd fioled. Ledled y Byd Cristnogol - yn arbennig ymhlith Lutheriaid, Catholigion Rhufeinig ac Anglicaniaid - bydd nifer yn nodi'r tymor trwy ymataliad rhag bwyta cig, .

Yn draddodiadol, mae'r Grawys yn parhau am gyfnod o 40 diwrnod, i goffáu'r 40 diwrnod y treuliodd Iesu ymprydio yn yr anialwch a chael ei demtio gan Satan, yn ôl Efengylau Mathew, Marc a Luc. Gan ddibynnu ar yr enwad Cristnogol ac arferion lleol, daw'r Grawys i ben naill ai ar nos Iau Cablyd, neu ar fachlud dydd Sadwrn y Pasg, gyda dathlu Gwylnos y Pasg. Naill ffordd neu'r llall, mae arferion y Grawys yn cael eu cynnal hyd at nos Sadwrn y Pasg.

Cyfeiriadau

Tags:

AilfedyddiaethAsgetigiaethCalfiniaethEglwysi'r tri cyngorMercher y LludwMethodistiaethPasgPenydY Cymundeb AnglicanaiddYr Eglwys Gatholig RufeinigYr Eglwys LutheraiddYr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

The Jeremy Kyle ShowGemau Olympaidd yr Haf 2020The SpectatorDillwyn, VirginiaDwight YoakamIestyn GeorgeTwitterThe TinglerWoody GuthrieAndrea Chénier (opera)Proto-Indo-EwropegClaudio Monteverdi1684Dirty DeedsD. W. GriffithMiri MawrAnimeiddioPedro I, ymerawdwr BrasilDurlifTerfysgaethBody HeatSefydliad WicimediaLleuwen SteffanSbaenegJuan Antonio VillacañasMAPRE1The Next Three DaysLuciano PavarottiLlundainTerra Em TranseUnicodeY Derwyddon (band)Java (iaith rhaglennu)Gweriniaeth RhufainEidalegThe Black CatAnhwylder deubegwnCroatiaSwydd GaerloywAncien RégimeLladinTongaSpynjBob PantsgwârShowdown in Little Tokyo1926The Witches of BreastwickRoyal Shakespeare CompanyMarie AntoinetteKundunDriggIesuThe Principles of LustCyfrifiadur personolPeter FondaHarri II, brenin LloegrIsomerI Will, i Will... For NowLouise BryantAdolygiad llenyddolThe New SeekersIâr (ddof)John PrescottFfwngThe Horse BoyCenhinen BedrCoelcerth y GwersyllGwladwriaeth IslamaiddEtholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1997🡆 More