Bryngaer o faint canolig ger arfordir gogledd Cymru yw Dinorben.
Mae'n gorwedd ar fryn i'r de o bentref Llan Sain Siôr, ym mwrdeistref sirol Conwy, tua hanner ffordd rhwng Llanelwy ac Abergele. Cyfeirir ati weithiau fel 'Parc y meirch', ar ôl yr ystâd gerllaw.
Math | caer lefal, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2682°N 3.5488°W |
Cod OS | SH968757 |
Cafodd y fryngaer ei gloddio gan archaeolegwyr yn 1912-22 ac yn achlysurol ers 1955 er mwyn cofnodi'r safle sy'n cael ei ddinistrio gan waith y chwarel yno. Mewn canlyniad mae'n un o fryngaerau mwyaf adnabyddus y gogledd i archaeolegwyr.
Nid oedd yn gaer fawr iawn, gan amgáu tua 2 hectar yn unig. Fe'i amddiffynnir gan greigiau calchfaen y bryn (safle'r chwarel heddiw) i'r gogledd a chyfres o waith amddiffynnol anferth i'r de. Ar ei hanterth, roedd yr amddiffynfeydd hyn yn cynnwys clawdd anferth gyda dau arall, llai, y tu allan iddo. Yn ei ffurf derfynol roedd gan y porth fynedfa hir o gerrig 10 medr o hyd gyda siambrau i amddiffynwyr yn ei ben mewnol. Y grêd yw bod amddiffynfeydd cyntaf y gaer wedi ei chreu gyda chlawdd o glai a atgyfnerthwyd â phren, a hyn o gwmpas 10fed ganrif C.C.. Yn dilyn llosgi'r pren ar ryw adeg, fe'i hail-adeiladwyd gyda wal cerrig sych a ffos is-law, a hyn tua'r 5ed ganrif C.C..
Cafwyd hyd i olion nifer o gytiau tu mewn i'r muriau. Ar sail tystiolaeth y cloddio yn y cytiau hyn, sy'n cynnwys crochenwaith a darnau pres o'r 3edd a'r 4g OC, tybir fod y gaer yn dyddio o gyfnod Oes yr Haearn ac iddi gael ei defnyddio trwy gyfnod y Rhufeiniaid ac iddi barhau fel un o ganolfannau llwythol lleol y Deceangli brodorol yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Cafwyd nifer o esgyrn ceirw yn ystod y cloddio. Credir bod y safle wedi bod mewn defnydd ers 1000 C.C., gydag un darn o bren wedi ei ddyddio o 945 ± 95 (dyddio radiocarbon).
Darganfuwyd olion gweithio plwm a haearn yn y gaer. Cafwyd hyd i ddau glust bwced efydd ar ffurf pennau teirw, sydd ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dinorben, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.