Cytiau Gwyddelod yw'r enw Cymraeg traddodiadol am y cytiau crwn cynhanesyddol sydd i'w gweld yma ac acw ar fryniau Cymru.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Mae'r enw yn gamarweiniol am nad oes unrhyw gysylltiad hanesyddol rhyngddynt â'r Gwyddelod yn benodol. Ar adegau yn y gorffennol ymsefydlai llwythi Gwyddelig yng ngorllewin Cymru o bryd i'w gilydd, a diau fod y cof am hynny'n esbonio'r enw poblogaidd ar yr olion archaeolegol hyn.
Mae'r cytiau fel rheol yn perthyn i Oes yr Efydd, Oes yr Haearn neu'r cyfnod Rhufeinig. Mae cannoedd o enghreifftiau i'w gweld yn y caeau a'r bryniau, yn arbennig yng ngorllewin Cymru, o Ynys Môn i Sir Benfro.
Un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw'r cytiau ar Fynydd Twr ger Caergybi, a elwir hefyd yn Gytiau Tŷ Mawr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cytiau Gwyddelod, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.