Tref a chymuned yn Ynys Môn ydy Caergybi ( ynganiad ) (Saesneg: Holyhead).
Saif ar ochr orllewinol Ynys Gybi ar lan Bae Caergybi, sy'n fraich o Fôr Iwerddon. Mae'r dref yn borthladd mawr: mae sawl fferi yn teithio rhwng Caergybi a Dulyn ac yn Iwerddon. Dyma'r dref fwyaf yn Ynys Môn efo poblogaeth o 13,659 yn ôl y cyfrifiad diwethaf nôl y 2011.
Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymuned Caergybi, Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.32°N 4.63°W |
Cod OS | SH2482 |
Cod post | LL65 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn cychwyn ac yn gorffen yn y dref. Mae yna bont droed fodern yn cysylltu'r porthladd gyda'r gyda'r dref. Mae yna lawer o fwytai fel Standing Stones, KFC, McDonalds, a Jambos Chinese. Yn ogystal, mae yno lawer o siopau fel Tesco, Poundland, Wilkos, Pets at Home, New Look a Cancer Research wedi'u lleoli yn y dref.
Mae olion yn dyddio o 2000 C.C. ar gopa Caer y Twr gyda nifer o Gytiau Gwyddelod ar y llethrau deheuol. Mae'n amlwg bod masnach aur a bwyaill cerrig rhwng Prydain ac Iwerddon.
Roedd caer Rufeinig Caer Gybi ar y safle yma o ddiwedd y 3g. Bellach, mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau'n dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr. Cafodd yr eglwys ei adeiladu yn yr 1960au. Credir bod y gaer yma at ddefnydd llynges Rufeinig. Ym muchedd Sant Cybi mae cyfeiriad at frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu mynachlog. Enw yr eglwys yw 'Eglwys Gatholig St Mary'.
Cryfhaodd y ffordd bost a adeiladwyd gan Thomas Telford o Lundain safle Caergybi fel y porthladd yr anfonwyd y Post Brenhinol ohono i Ddulyn ac oddi yno ar goets fawr y Post. Daw’r A5 i ben yn Admiralty Arch (1822–24), a ddyluniwyd gan Thomas Harrison i goffau ymweliad gan y Brenin Siôr IV ym 1821 ar y ffordd i Iwerddon ac mae’n nodi anterth gweithrediadau coetsis Irish Mail. Mae Ynys Gybi a Môn yn cael eu gwahanu gan y Culfor Cymyran a arferai gael ei chroesi ar y Bontrhydybont; a elwid felly, oherwydd bod y bont 4 milltir (6 cilometr) o Gaergybi ar yr hen dyrpeg.
Ar ben Mynydd Twr adeiladodd y Rhufeiniaid y goleudy cyntaf yn yr ardal. Heddiw, nid oes ond y seiliau i'w gweld. Mae goleudai newydd yn gweithio ar Ynys Lawd (wrth y mynydd), trwyn y morglawdd (yn y porthladd), Ynys Halen (yn y porthladd) ac Ynysoedd y Moelrhoniaid yn bellach allan yn y môr, i'r gogledd.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaergybi ym 1927.
Mae'r gofeb hon yn coffau'r awyrenwyr Americanaidd a fu farw ar ôl i'w hawyren fynd i drafferthion gerllaw yma yn yr Ail Ryfel Byd.
Dadorchuddiwyd y gofeb yn 1993 gan Iredell Hutton o Ogledd Carolina. Ef oedd cynnwr cefn rheolaidd Y Jigs Up. Roedd y criw arferol wedi newid i awyren wahanol ar 22 Rhagfyr 1944. Mae gweddillion yr awyren yn Lle Gwarchodedig. Daethpwyd o hyd i ddau o’r llafnau gwthio o wely’r môr yn 1992. Mae un wedi’i harddangos ar y gofeb (sy’n cynnwys enw’r peilot). Mae'r llall yn amgueddfa filwrol Fort Fisher, Gogledd Carolina.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Caergybi yw man cychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, sy'n ei chysylltu â Crewe.
Mae cwmnïau fferi yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd rhwng Caergybi a Dulyn a Dún Laoghaire yn Iwerddon. Ceir nifer o fysus yn rhedeg yn ardal Caergybi sy'n ei chysylltu â llefydd eraill ar yr ynys. Y pwysicaf yw'r gwasanaethau i Fangor a Llangefni. Mae'r A55 yn dechrau yn y dref. Fel yr E22 Ewropeaidd mae'n cysylltu Caergybi ag Ekaterinburg yn Rwsia.
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Caergybi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.