Llannerch-Y-Medd: Gymuned yn y sir Gymreig Môn, yng Nghymru, a leolir ar arfordir gogledd orllewin y sir

Am leoedd eraill o'r enw Llannerch, gweler Llannerch.

Llanerchymedd
Llannerch-Y-Medd: Tarddiad yr enw, Capeli, Clorach
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaTref Alaw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.327248°N 4.387343°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000028 Edit this on Wikidata
Cod OSSH4110483805 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)

Pentref a chymuned yn Ynys Môn yw Llannerch-y-medd (Llannerch-Y-Medd: Tarddiad yr enw, Capeli, Clorach ynganiad ) (hefyd Llanerchymedd). Fe'i lleolir ger Llyn Alaw yng nghanol yr ynys. Am ganrifoedd bu'n adnabyddus am ei ffair a ddenai gwerthwyr a phrynwyr o bob rhan o'r ynys.

Ceir yma ysgol gynradd, siop gyffredin, siop flodau a siop sglodion yn Llannerch-y-medd yn ogystal â chlwb ieuenctid a pharc.

Llannerch-Y-Medd: Tarddiad yr enw, Capeli, Clorach
Hen Swyddfa bost, Llannerch-y-medd

Tarddiad yr enw

Mae dwy ran i'r enw: llannerch sy'n golygu "lle agored wedi ei glirio" a medd, sef diod alcoholaidd wedi'i gwneud o fêl); mae'n bosib fod yn yr ardal, felly, ddigon o wenynwyr yn y gorffennol.

Llannerch-Y-Medd: Tarddiad yr enw, Capeli, Clorach 
Llannerch y medd tua 1875
Llannerch-Y-Medd: Tarddiad yr enw, Capeli, Clorach 
Ellis Wirion un o gymeriadau Llannerch-y-medd

Capeli

  • Capel Ifan 1838
  • Capel Mawr 1818
  • Y Tabarnad 1818

Clorach

Tua milltir a hanner i'r dwyrain o'r pentref ceir hen blasty Clorach (fferm heddiw), a fu'n gartref i Gwilym ap Tudur a chyrchfa i'r beirdd yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Yn ôl traddodiad llên gwerin a ysbrydolodd gerdd gan Syr John Morris-Jones, arferai'r seintiau cynnar 'Seiriol Wyn' a 'Chybi Felyn' gyfarfod bob wythnos yng Nghlorach am ei fod yng nghanol yr ynys. Lewis Morris yw'r cyntaf i sôn am hynny, yn y 18g. Gan fod Seiriol yn cerdded â'r haul ar ei gefn yno ac yn ôl arhosodd ei wyneb yn wyn, ond y gwrthwyneb yn achos Cybi gan droi ei wyneb yn felyn.

Adeiladau a chofadeiladau

Tafarndai o'r oes a fu

Roedd 15 o dafarndai yn Llannerch-y-medd ar un adeg a'r rheini oedd:

  • Blue Bell-Elizabeth Edmonds
  • Bell Inn (Hefyd y swyddfa tollau)-Edward Collier
  • Cross Keys-David Aubrey
  • Crown and Anchor-John Hughes
  • Druid-Richard Parry
  • George & Dragon-Walter Jones
  • King's Head-Evan Williams
  • Liver-Richard Price
  • Llwydiarth Arms-William Jones
  • Lord Nelson-William Aubrey
  • Red Lion-John Jones
  • Ship-Elizabeth Morris
  • Ty Coch-Owen Owens
  • Wheat Sheaf-Owen Jones
  • White Horse-David Burgess

Busnesau

Roedd un banc, The National Provincial ar agor ar ddydd Mercher. Y rheolwr oedd Samuel Greathead.

Dyma rhestr o fusnesau oedd yn bodoli ym 1850: 6 crydd, 4 cigydd, 4 negeswyr, 10 groser, 10 tafarn, 5 saer, 2 gwneuthurwr hewinedd, 2 cyfrwywr, 2 seiri maen, 2 llawfeddygon, 4 teiliwr, 2 gwneuthurwyr oriawr a chlociau ac 18 busnes teuluol aralll

Côr Meibion y Foel

Cryddion

Yn 1832 oedd yna 250 o gryddion yn gweithio yn Llannerchymedd ond erbyn 1893 dim ond 10 o gryddion yn gweithio yno. Nid oedd y cryddion yn gweithio ar ddydd Sul nac ar ddydd Llun.

Pobl o Lannerch-y-medd

Damwain Rheilffordd

Rheilffordd canolbarth Môn - trên cyntaf ar y 1af o Orffennaf, 1866. Digwyddodd y ddamwain ar y 29ain o Dachwedd, 1877. Digwyddodd law trwm, dychrynllyd, a gorlifodd Llyn y Pandy dros yr argae. Rhuthrodd y trên yn ôl i stesion y Llan ac ail gychwynodd am Rosgoch gyda 3 person arni, y gyrrwr, taniwr a arolygydd y rheilffordd. Ond, roedd y glaw dal i fynd a syrthiodd y trên i mewn i'r afon a'i thrwyn i fyny. Ail adeiladwyd pont newydd o gerrig ac roedd y bont yn cael ei gydnabod fel 'Pont y ddamwain.' Ac mae'r pont dal i sefyll yno rwan.

India Roc 'nymbar 8 Llan'achmedd'

Yn y 1800au, cafodd yr 'India roc' ei chyflwyno i Lannerch-y-medd. Redd ganddo rif 8 arno oherwydd roedd pobl yn dylunio ffurf 'neidr' i greu rhif 8. Roedd yna fasiwn beth a 'pin' 8 pwynt, ond doedd neb yn gwybod pam. Ar ôl i'r dyn cyntaf i gyflwyno India roc farw, cymerodd ei fab Huw y busnes drosodd. Roedd yr India roc yma'n cael ei werthu ym marchnadoedd Llangefni ac roedd yr India roc yn cael ei chadw a'i bacio mewn bocsys bananas.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llannerch-y-medd (pob oed) (1,360)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llannerch-y-medd) (952)
  
73.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llannerch-y-medd) (999)
  
73.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llannerch-y-medd) (207)
  
36.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Tags:

Llannerch-Y-Medd Tarddiad yr enwLlannerch-Y-Medd CapeliLlannerch-Y-Medd ClorachLlannerch-Y-Medd Adeiladau a chofadeiladauLlannerch-Y-Medd Tafarndai or oes a fuLlannerch-Y-Medd BusnesauLlannerch-Y-Medd Côr Meibion y FoelLlannerch-Y-Medd CryddionLlannerch-Y-Medd Pobl o Lannerch-y-meddLlannerch-Y-Medd Damwain RheilfforddLlannerch-Y-Medd India Roc nymbar 8 LlanachmeddLlannerch-Y-Medd Cyfrifiad 2011Llannerch-Y-Medd CyfeiriadauLlannerch-Y-MeddLlannerch

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

ToyotaFaulkner County, ArkansasHTMLIndonesiaPenfras yr Ynys LasPreble County, OhioWilliams County, OhioSex and The Single GirlPriddJefferson County, NebraskaLafayette County, ArkansasSaline County, ArkansasCwpan y Byd Pêl-droed 2006Delaware County, OhioBrwydr MaesyfedPrairie County, ArkansasLos AngelesY Rhyfel Byd CyntafIndoneseg1572Coedwig JeriwsalemJafanegBae CoprBig Boobs1905321Van Buren County, ArkansasDes Arc, ArkansasCharmion Von WiegandY Sgism OrllewinolMassachusettsSławomir MrożekCass County, NebraskaRhufainY Chwyldro OrenJohn BetjemanY Deyrnas UnedigCecilia Payne-GaposchkinUpper Marlboro, MarylandCyhyryn deltaiddBananaTed HughesSt. Louis, MissouriClefyd Alzheimer1806Jürgen HabermasOperaWarsawSyriaHarry BeadlesWoolworthsThe Bad SeedThomas County, NebraskaHafanHappiness AheadArwisgiad Tywysog CymruMaes awyrCoshocton County, OhioMaes Awyr KeflavíkPatricia CornwellTwo For The MoneyGweriniaeth Pobl TsieinaMorocoWar of the Worlds (ffilm 2005)Parc Coffa YnysangharadNatalie PortmanToirdhealbhach Mac SuibhneR. H. RobertsForbidden SinsClay County, NebraskaY Cerddor CymreigGary Robert JenkinsKnox County, MissouriEscitalopram🡆 More