Aelod o deulu Tuduriaid Penmynydd ac un o gefnogwyr mwyaf blaenllaw ei gefnder Owain Glyn Dŵr oedd Gwilym ap Tudur, weithiau William ap Tudur (fl.
1380 - 1413).
Gwilym ap Tudur | |
---|---|
Ganwyd | 14 g |
Bu farw | 1413 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Tudur Fychan |
Mam | Marged ferch Tomos |
Llinach | Tuduriaid Penmynydd |
Roedd Gwilym yn fab i Tudur Fychan, arglwydd Penmynydd. Cofnodir iddo fod yng ngosgordd bersonol Rhisiart II, brenin Lloegr am gyfnod. Ymunodd â gwrthryfel Glyn Dŵr, ac ar ddydd Gwener y Groglith 1401 cipiodd ef a'i frawd Rhys ap Tudur gastell Conwy. Wedi i'r gwrthryfel ddirwyn i ben, rhoddwyd pardwn i Gwilym yn 1413, ond collodd lawer o'i diroedd.
Roedd yn berchennog plasdy Clorach, ger Llannerch-y-medd, a fu'n gyrchfa i nifer o feirdd.
Goronwy ap Tudur Hen (Teulu Ednyfed Fychan) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd Fychan II m. cyn 1340 | Elen ferch Tomos | Marged ferch Tomos | Tudur ap Goronwy m. 1367 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Glyn Dŵr c. 1354 - c. 1414 | Maredudd m.1406 | Rhys m. 1409 | Gwilym m. 1413 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Tudur | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwilym ap Tudur, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.