Castell canoloesol yn nhref Conwy ar lan afon Conwy yw Castell Conwy.
Cynllunwyd y castell gan y pensaer Ffrengig James o St George ac fe'i adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, er fod Rhisiart o Gaer yn gyfrifol yn y dechrau (1283). Adeiladwyd y castell a'r dref gaerog ar ben adfeilion Abaty Aberconwy, a ddinistrwyd gan Edward er mwyn defnyddio'r safle, ac mae mur o gwmpas y dref gyfan gan mai Saeson oedd trigolion y dref newydd. Roedd Castell Conwy, yn wahanol i nifer o gestyll eraill James o St George, heb fod yn gonsentrig ond yn cael ei godi yn ôl cynllun llinellol oherwydd ffurf y safle creigiog. Mae'r wyth tŵr anferth gyda'u tyredau a'r muriau cysylltu i gyd yn gyfan.
Math | castell |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Castell Conwy a muriau'r dref |
Lleoliad | Conwy |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6 ha |
Uwch y môr | 21.8 metr, 23 metr |
Cyfesurynnau | 53.28°N 3.83°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Edward I, brenin Lloegr |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Sefydlwydwyd gan | Edward I, brenin Lloegr |
Manylion | |
Deunydd | calchfaen |
Dynodwr Cadw | CN004 |
Mae'r castell yng ngofal Cadw. Fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.
Codwyd Castell Conwy gan frenin Lloegr ar ôl iddo orchfygu Teyrnas Gwynedd, calon Tywysogaeth Cymru annibynnol, yn 1282-83. Roedd yn un o gylch o gestyll newydd - yn cynnwys Castell Caernarfon, Castell Biwmares a Chastell Harlech - a godwyd gan y Saeson o amgylch Gwynedd i'w gwarchod yn nwylo'r brenin rhag y Cymry gwrthryfelgar.
Ym 1401, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, cipiodd ei gefnogwyr Rhys ap Tudur a'i frawd Gwilym ap Tudur y castell, a llosgwyd y dref.
Gefeilliwyd Castell Conwy â Chastell Himeji, Japan mewn seremoni ffurfiol yn Himeji ar 29 Hydref 2019.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Castell Conwy, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.