Gwalchmai Richard Parry: Gweinidog gyda'r Annibynwyr, bardd, a llenor (1803-97)

Roedd Richard Parry (Gwalchmai) (19 Ionawr 1803 – 7 Chwefror 1897) yn fardd, llenor ac yn Weinidog Cymreig

Richard Parry
Gwalchmai Richard Parry: Bywyd cynnar, Gweinidogaeth, Bardd a Llenor
FfugenwGwalchmai Edit this on Wikidata
Ganwyd19 Ionawr 1803 Edit this on Wikidata
Llannerch-y-medd Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Gwalchmai Richard Parry: Bywyd cynnar, Gweinidogaeth, Bardd a Llenor
Gwalchmai yn gwisgo ei sash a'i fedalau eisteddfodol

Bywyd cynnar

Ganwyd Gwalchmai yn Llanerchymedd ym 1803 yn fab i Richard Parry, gweithiwr trin lledr a Margaret (née Williams) ei wraig. Roedd Gwalchmai yn ymhyfrydu yn ei ach ac yn honni ei fod yn disgyn o Gweirydd ap Rhys Goch ar ochr ei dad a Hwfa ap Cynddelw ar ochr ei fam; y ddau ohonynt yn sylfaenwyr Pymtheg Llwyth Gwynedd.

Derbyniodd addysg sylfaenol mewn ysgol Eglwysig cyn cael ei brentisio i ddysgu crefft y cyfrwywr. Dechreuodd bregethu i'r Methodistiaid Calfinaidd ym 1828; ym 1829 sefydlwyd William Williams (Caledfryn) yn weinidog yr Annibynwyr yn Llanerchymedd a daeth y ddau yn gyfeillion ac ymunodd Gwalchmai a'r Annibynwyr.

Priododd Dorothy Jones ym 1844, bu iddynt un ferch, fu Mrs Parry farw ym 1886. Priododd y ferch â gweinidog lleol; roedd eu mab William Milton Aubrey (Anarawd) (1861-1889) yn fardd a hynafiaethydd.

Gweinidogaeth

Gwalchmai Richard Parry: Bywyd cynnar, Gweinidogaeth, Bardd a Llenor 
Capel (A) Henryd

Ordeiniwyd Gwalchmai i weinidogaeth yr Annibynwyr ym Mryngwran ym 1832, symudodd ym 1838 i fod yn weinidog capeli Annibynnol Conwy a Henryd lle fu'n gweinidogaethu am ddeng mlynedd cyn symud i Lanymddyfri am gyfnod, cyn symud yn ôl i'r gogledd fel gweinidog Bethania Ffestiniog. Ym 1854 symudodd i Landudno i sefydlu achosion newydd Cymraeg a Saesneg, arhosodd yn Llandudno am weddill ei oes gan ymddeol ym 1883.

Bardd a Llenor

Cafodd Gwalchmai ei urddo'n aelod o'r orsedd yn Aberffraw ym 1827 wedi hynny bu'n hynod lwyddiannus yn y byd eisteddfodol gan ennill saith neu wyth o gadeiriau, dwy fedal aur ac un ar bymtheg o rai arian am orchestion megis Coroniad y Frenhines Victoria a daeth i'r brig yn eisteddfod Merthyr Tudful 1839, Mordwyaeth yn eisteddfod Lerpwl 1851 a'r Dychweliad o Fabilon yn eisteddfod Llannerchymedd 1859. Er gwaethaf ei lwyddiannau mawr prin fod dim o'i gwaith yn cael ei gyfrif fel canu o werth arhosol

Cyhoeddodd nifer fawr o lyfrau yn y Gymraeg a'r Saesneg

Llyfryddiaeth

  • Cofiant y diweddar David Jones, Llansantffraid. 1850
  • Adgofion am John Elias. (Thomas Gee, Dinbych, 1859)
  • Enwogion Môn. 1877
  • (golygydd) Geirionydd (Rhuthun, dim dyddiad = 1862). Golygiad o waith Ieuan Glan Geirionydd, gyda bywgraffiad a nodiadau.
  • Yr Adroddiadur Barddonol. 1877
  • History of Ancient Eisteddfodau
  • History and Natural History of Llandudno
  • Ymneillduaeth ym Môn
  • Anianyddiaeth sefyllfa ddyfodol (Cyfieithiad o Philosophy of Future State gan Thomas Dick)

Marwolaeth a choffa

Bu farw yn Llandudno yn 94 oed a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent Penrhos,

Cyhoeddwyd cofiant iddo ym 1899 Cofiant a gweithiau y Parchedig Richard Parry (Gwalchmai) Dan olygiaeth R. Peris Williams. Mae yna blac coch er cof amdano wedi ei osod ar wal Christ Church Llandudno sydd yn ei gofio fel "Awdur arweinlyfr cynnar i Landudno a Hyrwyddwr gwasanaethau crefyddol Saesneg yn y dref ar gyfer ymwelwyr"

Cyfeiriadau

Tags:

Gwalchmai Richard Parry Bywyd cynnarGwalchmai Richard Parry GweinidogaethGwalchmai Richard Parry Bardd a LlenorGwalchmai Richard Parry LlyfryddiaethGwalchmai Richard Parry Marwolaeth a choffaGwalchmai Richard Parry CyfeiriadauGwalchmai Richard Parry1803189719 Ionawr7 ChwefrorAwdurBarddGweinidog yr Efengyl

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Newid hinsawddCalsugnoCath31 HydrefYr wyddor GymraegGary SpeedCymruGwyn ElfynEirug WynBae CaerdyddRhyw diogelgrkgjCharles Bradlaugh2024Welsh TeldiscMapCapybaraStygianMihangelDmitry KoldunRhyw llawLerpwlCaergaintSilwairFfraincCapel CelynDyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, NiwbwrchNovialAnna VlasovaPornograffiGeometregHwferWcráinCyhoeddfaNewfoundland (ynys)John F. KennedyRhif23 MehefinAmericaY Chwyldro Diwydiannol yng NghymruNasebyRhifau yn y GymraegMargaret WilliamsCytundeb KyotoSophie DeeAdran Gwaith a PhensiynauDavid Rees (mathemategydd)ArbrawfLa Femme De L'hôtelHenry LloydNepalBitcoinIeithoedd BrythonaiddGwladoliCefnfor yr IweryddDoreen LewisJeremiah O'Donovan RossaGorgiasEmoji22 Mehefin1584🡆 More