Lillie Goodisson

Roedd Elizabeth Ann (Lillie) Goodisson (cynt Evans née Price) (bedyddiwyd 27 Ebrill, 1859 – 10 Ionawr, 1947) yn nyrs Gymreig.

Roedd yn hyrwyddwr ewgeneg a hylendid hiliol a daeth hi'n arloeswr ym maes iechyd gwenerol a chynllunio teuluol yn Ne Cymru Newydd.

Lillie Goodisson
Lillie Goodisson
GanwydEbrill 1859 Edit this on Wikidata
Caergybi Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd27 Ebrill 1859 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 1947 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Awstralia Awstralia
Galwedigaethnyrs Edit this on Wikidata

Cefndir

Ganwyd Lillie Price yng Nghaergybi, yn blentyn i John Richard Price, meddyg a fferyllydd, ac Frances Elizabeth, (née Roberts). Cafodd ei bedyddio yn Eglwys Sant Cybi, Caergybi ar 27 Ebrill 1859, a gan fod cyfrifiad 1861 yn rhoi ei hoedran yn 2 flwydd, mae'n debyg ei bod wedi ei geni yn yr un flwyddyn.

Hyfforddwyd Price i fod yn nyrs yn Llundain, lle cyfarfu â'r Dr Lawford David Evans, meddyg Cymreig yn Llundain, oedd yn hanu o Abertawe. Priododd y ddau ac ymfudasant i Auckland, Seland Newydd, lle ganwyd eu dau blentyn ym 1881 a 1883. Erbyn 1895 roedd y teulu wedi ymfudo eto i dalaith, Victoria, Awstralia. Ym 1897 sefydlodd Dr a Nyrs Evans ysbyty preifat Myrnong yn St Kilda, Victoria. Bu farw Dr Evans ym 1903. Ym 1904 priododd Evans ei ail ŵr, Albert Elliot Goodisson, rheolwr busnes. Symudodd hi a'i phlant i'w gartref ef yn Goodisson, Gorllewin Awstralia. Bu farw Albert Goodisson ym 1914 mewn ysbyty meddwl lle'r oedd o'n cael ei drin am Led Barlys Cyffredinol yr Orffwyll (paresis cyffredinol). Mae paresis yn gyflwr organig sy'n effeithio'r ymennydd a oedd yn cael ei drin fel salwch meddwl ar y pryd. Mae paresis cyffredinol yn datblygu fel adwaith i'r clefyd gwenerol syffilis.

Gyrfa

Ychydig ar ôl i Goodisson dod yn weddw am yr ail dro ymunodd Awstralia, fel rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, a'r Rhyfel byd Cyntaf. I gefnogi achos y rhyfel bu Goodisson yn weithgar gyda nifer o achosion gwladgarol. Daeth yn ysgrifennydd adran menywod Plaid Ryddfrydol y Bobl, Cymdeithas Amddiffyn Masnach yr Ymerodraeth adran menywod Cynghrair Diogelu Diwydiannau Awstralia ac amryw achosion gwladgarol eraill. Wedi'r rhyfel benthycodd arian gan ei chyfeilles Ivy Brookes, merch ail brif weinidog Awstralia, a sefydlodd llyfrgell yn Elwood, Melbourne. Ni fu'r fenter yn llwyddiannus a daeth i ben ym 1924.

Symudodd Goodisson i Sydney i fod gyda'i merch ym 1926. Ymunodd â Chynghrair Diwygio'r Merched a gyda Ruby Rich, Marion Louisa Piddington ac Anna Roberts sefydlodd Y Gymdeithas Gwella Hiliol, a ddaeth yn ddiweddarach (1928) yn Gymdeithas Hylendid Hiliol De Cymru Newydd. Roedd y gymdeithas yn ymwneud â hyrwyddo addysg rhyw, atal a dileu clefyd gwenerol ac addysgu'r cyhoedd mewn ewgeneg. Dethol nodweddion etifeddol dymunol mewn bodau dynol i wella cenedlaethau'r dyfodol yw ewgeneg. Gwasanaethodd Goodisson fel ysgrifennydd cyffredinol y gymdeithas. Bu’r gymdeithas yn eiriol dros fridio detholus cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer dileu clefydau etifeddol, a diffygion corfforol. Roedd y gymdeithas am sicrhau nad oedd yr hil wen yn cael ei "lygru" trwy gyfathrach a hiliau "is" a bu'n ymgyrchu i sterileiddio’r rhai â nam meddyliol ac i gyflwyno archwiliadau iechyd cyn briodasol. Er i Goodisson ymgyrchu dros nodau ewgeneg ei chymdeithas, ei phrif ddiddordebau oedd atal cenhedlu a gwleidyddiaeth. Y sbardun tebygol ar gyfer ei diddordebau ymgyrchu oedd marwolaeth ei ail ŵr o haint wenerol.

Ym 1932 safodd Goodisson, heb lwyddiant, fel ymgeisydd y Blaid Diwygio Gymdeithasol etholaeth Newcastle ar gyfer Senedd Awstralia. Ym 1933 sefydlodd Gymdeithas Hylendid Hiliol glinig rheoli cenhedlu yn Sydney a ddisgrifiodd Goodisson fel y cyntaf yn Awstralia; fodd bynnag, roedd Piddington wedi sefydlu clinig rheoli cenhedlu ym Melbourne ddwy flynedd ynghynt. Roedd y clinig yn gwasanaethu menywod priod yn unig, gan ddarparu diafframau fel na fyddai beichiogrwydd nas dymunid yn cael ei derfynu gan erthyliad anghyfreithlon. Roedd gweithgareddau'r clinig yn ddadleuol; derbyniodd gymorthdaliadau'r llywodraeth dim ond er mwyn iddynt gael eu tynnu'n ôl. Arhosodd Goodisson yn weithgar yn y gymdeithas hyd ei marwolaeth ym 1947; fodd bynnag, gostyngwyd gweithgareddau'r sefydliad yn fawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac ni wnaethant adennill momentwm tan y 1960au. Ym 1960 ailenwyd y gymdeithas yn Gymdeithas Cynllunio Deuluol Awstralia.

Roedd Goodisson hefyd yn aelod gweithgar o Gyngor Cenedlaethol Menywod De Cymru Newydd, Cymdeithas Cymorth Teithwyr, Cynghrair Ffilm Dda De Cymru Newydd, Wythnos Iechyd Sydney a'r Cyngor Hylendid Meddwl.

Marwolaeth

Bu farw yn 87 mlwydd oed yn Cremorne Point ger Sydney a chafodd ei chorff ei amlosgi.

Cyfeiriadau

Tags:

Lillie Goodisson CefndirLillie Goodisson GyrfaLillie Goodisson MarwolaethLillie Goodisson CyfeiriadauLillie Goodisson10 Ionawr1859194727 EbrillDe Cymru NewyddEwgenegNyrsio

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Jim Parc NestByseddu (rhyw)Y DdaearDavid Rees (mathemategydd)Y rhyngrwydFfilm gomediWiciadurRhestr ffilmiau â'r elw mwyafBlaengroenMihangelKylian Mbappé2024ProteinTymhereddEtholiad cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig yng NghymruBroughton, Swydd NorthamptonAnna Gabriel i SabatéCyfathrach Rywiol FronnolGoogleAllison, IowaGeometregCuraçaoData cysylltiedigEwcaryotCebiche De TiburónSwleiman IRhyddfrydiaeth economaiddCreampieRobin Llwyd ab OwainIago II & VII, brenin Lloegr a'r AlbanLlanw LlŷnSŵnamiBrenhiniaeth gyfansoddiadolRhifau yn y GymraegThe Songs We Sang1945St PetersburgEl NiñoWho's The BossYouTubeY CeltiaidEva LallemantAnableddMinskCwnstabliaeth Frenhinol IwerddonGeiriadur Prifysgol CymruSant ap CeredigUm Crime No Parque PaulistaSystème universitaire de documentationFfrwythYnysoedd y FalklandsNepalSiôr I, brenin Prydain FawrTŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)IndonesiaOblast MoscfaDonald Watts DaviesTo Be The BestIrene PapasAristotelesAwstraliaBrexitHoratio NelsonLlan-non, CeredigionContact🡆 More