Helsinki (yn Ffinneg; ynganiad ), neu Helsingfors (yn Swedeg y Ffindir; ynganiad ) yw prifddinas Y Ffindir a'i dinas fwyaf.
Mae'n borthladd pwysig ar lan ogleddol Gwlff y Ffindir, yn y Môr Baltig. Helsinki yw canolfan weinyddol a masnachol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 564,908 (31 Ionawr, 2007). Mae ardal drefol Helsinki yn cynnwys dinasoedd Espoo, Vantaa a Kauniainen, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Rhanbarth y Brifddinas, gyda phologaeth o tua 998,535. Yn ogystal mae Helsinki Fwyaf yn cynnwys rhai dinasoedd ychwanegol ac mae ganddi boblogaeth o 1,293,093 (2007), sy'n golygu fod un o bob pedwar Ffinn yn byw yn ardal Helsinki Fwyaf.
Math | prifddinas, bwrdeistref y Ffindir |
---|---|
Poblogaeth | 675,747 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Juhana Vartiainen |
Cylchfa amser | UTC+2, EET, Amser Haf Dwyrain Ewrop, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffinneg, Swedeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Uusimaa |
Gwlad | Y Ffindir |
Arwynebedd | 214.42 km² |
Uwch y môr | 17 metr |
Gerllaw | Gwlff y Ffindir, Afon Vantaa |
Yn ffinio gyda | Espoo, Vantaa, Sipoo |
Cyfesurynnau | 60.1708°N 24.9375°E |
Cod post | 00100–00990 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Helsinki City Board |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Helsinki |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Helsinki |
Pennaeth y Llywodraeth | Juhana Vartiainen |
Sefydlwydwyd gan | Gustav I o Sweden |
Mae ganddi nifer o adeiladau mewn gwenithfaen hardd, gan gynnwys y senedd-dŷ a'r eglwys gadeiriol (18g). Yn ogystal, ceir nifer o adeiladau diweddar a ystyrir yn enghreifftiau rhagorol o bensaernïaeth yr 20g. Ceir nifer o lynnoedd yn y ddinas ac o'i chwmpas. Sefydlwyd ei phrifysgol yn 1828.
Sefydlwyd Helsinki gan y brenin Swedaidd Gustavus I Vasa yn 1550 pan oedd y wlad ym meddiant Sweden. Roedd y rhan fwyaf o'r adeiladau wedi'u gwneud o bren. Dioddefodd y ddinas dân mawr yn 1808 a ddinistriodd rannau mawr ohoni a chafodd ei hail-adeiladau mewn canlyniad. Dan reolaeth Rwsia ar y Ffindir symudwyd y brifddinas o ddinas Turku i Helsinki yn 1812. Yn yr Ail Ryfel Byd dioddefodd bomio ar raddau sylweddol. Erbyn heddiw mae'n ddinas werdd, lewyrchus.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Helsinki, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.