Prifddinas a dinas fwyaf Lithwania yw Vilnius (pwyleg: Wilno), gyda phoblogaeth o 555,613 (847,954 yn cynnwys Swydd Vilnius) yn 2008.
Mae'n ganolfan weinyddol Dinas Vilnius, Dosbarth Dinesig Vilnius, a Swydd Vilnius. Yn 2009 Vilnius oedd Prifddinas Diwylliant Ewrop, ynghyd â Linz, Awstria.
Arwyddair | Unitas, Iustitia, Spes |
---|---|
Math | prifddinas |
Enwyd ar ôl | Afon Vilnia |
Poblogaeth | 581,475 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Remigijus Šimašius |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Dinas Vilnius |
Gwlad | Lithwania |
Arwynebedd | 401 km² |
Uwch y môr | 112 metr, 98 metr |
Gerllaw | Neris, Afon Vilnia |
Cyfesurynnau | 54.6872°N 25.28°E |
Cod post | 01001 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Vilnius |
Pennaeth y Llywodraeth | Remigijus Šimašius |
Gorwedd y ddinas ar gyfaber afonydd Vilnia a Neris yn ne-ddwyrain Lithwania. Tybir fod ei henw yn deillio o enw afon Vilnia. Nid yw'n gorwedd yng nghanol Lithwania heddiw ond yn hanesyddol roedd yn gorwedd yng nghanol Dugiaeth Fawr Lithwania. Lleolir Vilnius tua 312 km (194 milltir) o lan y Môr Baltig a Memel (Klaipeda), prif borthladd Lithwania. Cyslltir Vilnius gan draffyrdd i rai o ddinasoedd mawr eraill y wlad, fel Cawnas (102 km/63 milltir i ffwrdd), Šiauliai (214 km/133 milltir) a Panevėžys (135 km/84 miltir).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Vilnius, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.