Un o ddinasoedd mwyaf Gwlad Pwyl yw Gdańsk (hefyd Almaeneg: Danzig, Casiwbeg: Gduńsk).
Mae wedi'i lleoli ar aber Afon Wisła a Môr Baltig. Porthladd pwysig i'r wlad a phrifddinas foifodiaeth (talaith) Pomorskie yw hi. Yn 2004 roedd ynddi boblogaeth o 460,524. Rhan o Trójmiasto ("teirddinas") ydy Gdansk, gyda Gdynia a Sopot. Daw'r cofnod hanesyddol cynharaf o'r ddinas yn 997. Y pryd hynny aeth Sant Adalbert yno er mwyn troi'r preswylwyr i Gristionogaeth. Ymhen canrifoedd daeth Gdańsk yn ddinas mwyaf cyfoethog Gweriniaeth Pwyl. Gadwodd hi hunan lywodraeth eto. Yn y 18g enillwyd Gdańsk gan Brwsia. Wedyn Dinas Rydd oedd hi am gyfnod. Yr ail dro iddi fod yn Ddinas Rydd Danzig oedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Almaenwyr, Pwyliaid, Casiwbiaid ac Iddewon oedd yn byw yno. Danzig oedd prif borthladd y Coridor Pwylaidd a oedd yn rhoi allanfa i wladwriaeth annibynnol newydd Gwlad Pwyl i fasnachu gyda gweddill y byd drwy Môr Baltig. Bu sefydlu y Coridor, a'r ffaith bod Danzig ddim yn rhan o'r Almaen, yn destun trafodaeth tanbaid yn ystod yr 1920au a 30au. Pan ddaeth Hitler i rym yn Yr Almaen gwnaeth adfeddiannu Danzig a chysylltu'r ddinas gyda'r Almaen yn destun gwrthrwbl. Yn fuan wedi arwyddo Cytundeb Molotov–Ribbentrop - cytundeb gudd rhwng yr Almaen Natsïaidd a'r Undeb Sofietaidd gomiwnyddol ymosododd lluoedd Hitler ar Danzig a'i feddiannu, gan dechrau Yr Ail Ryfel Byd.
Arwyddair | Nec temere, nec timide |
---|---|
Math | dinas fawr, dinas â phorthladd, dinas Hanseatig, dinas gyda grymoedd powiat |
Poblogaeth | 486,022 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Aleksandra Dulkiewicz |
Cylchfa amser | UTC+01:00, CET |
Gefeilldref/i | Vilnius |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Związek Miast Nadwiślańskich |
Sir | Pomeranian Voivodeship |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 266 ±1 km² |
Uwch y môr | 180 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Vistula |
Yn ffinio gyda | Sopot, Gdynia, Sir Kartuzy, Sir Gdańsk, Sir Nowy Dwór Gdański, Gdańsk Bay, Gmina Żukowo, Gmina Kolbudy, Gmina Pruszcz Gdański, Pruszcz Gdański, Gmina Cedry Wielkie, Gmina Stegna |
Cyfesurynnau | 54.348291°N 18.654023°E |
Cod post | 80-008–80-958 |
Pennaeth y Llywodraeth | Aleksandra Dulkiewicz |
Ar ôl y rhyfel daeth y ddinas i Wlad Pwyl. Yn yr 80au bu streiciau seiri llongau a gweithwyr eraill yno gyda Lech Wałęsa (Arlywydd Gweriniaeth Pwyl wedyn) yn eu harwain. Cred llawer mai'r digwyddiad hwn sbardunodd gwymp comiwnyddiaeth yn Ewrop.
Warsaw · Kraków · Łódź · Wrocław · Poznań · Gdańsk · Szczecin · Bydgoszcz · Lublin · Katowice · Białystok · Gdynia · Częstochowa · Radom · Sosnowiec · Toruń · Kielce · Gliwice · Rzeszów · Zabrze · Olsztyn · Bytom · Bielsko-Biała · Ruda Śląska · Rybnik · Tychy · Dąbrowa Górnicza · Gorzów Wielkopolski · Płock · Elbląg · Opole · Wałbrzych · Zielona Góra · Włocławek · Tarnów · Chorzów · Koszalin · Kalisz · Legnica ·
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gdańsk, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.