Ceir sawl diffiniad o'r term cerddoriaeth glasurol.
Heddiw, defnyddir y term yn aml i olygu unrhyw gerddoriaeth na ddisgyn dan y diffiniad o gerddoriaeth boblogaidd. Gall hyn felly gynnwys mathau gwahanol iawn o gerddoriaeth, yn amrywio o Siantiau Gregoriaidd i gerddoriaeth fodern 'avant-garde'. Mewn defnydd academaidd fodd bynnag, cyfeiria'r term at gyfnod penodol, sy'n para yn gyffredinol rhwng geni Wolfgang Amadeus Mozart a marw Ludwig van Beethoven. Rhagflaenir y cofnod hwn gan y cyfnod 'Rococo', a dilynir ef gan y cyfnod 'Rhamantaidd'. Datblygodd y term 'Clasurol' wrth i gyfansoddwyr o'r 19g ddechrau edrych ar weithiau W.A. Mozart, Josef Haydn, George Frederic Handel a Beethoven gydag edmygedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cerddoriaeth glasurol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.