Pobl nomadaidd sy'n tarddu o'r India yw'r Roma neu'r Romani.
Adnabyddir yn draddodiadol gan yr enw Sipsiwn, ond term a roddir arnynt gan eraill yw hwnnw a gall hefyd cyfeirio at grwpiau nomadaidd eraill.
Mae'n bosib bod y Roma yn perthyn i'r Dom neu i'r cast Indiaidd Domba. Datblygodd yr iaith Romani rhywbryd ar ôl 500 CC yng nghanolbarth India. Dechreuodd y Roma fudo i'r gogledd tuag at Gashmir cyn 500 OC, ond arhosodd yn isgyfandir India tan tua'r 9g. Mudodd yna i'r gorllewin gan ymsefydlu yng ngorllewin Anatolia ac yn hwyrach ar draws Ewrop, ac erbyn heddiw ar draws y byd.
Bu'r Roma yn dioddef rhagfarn ac erledigaeth trwy gydol eu hoes, gan gynnwys caethwasiaeth yn Nwyrain Ewrop, pogromau, ac hil-laddiad yn yr Holocost.
Ymsefydlodd y Roma yng Nghymru gan ddatblygu iaith neu dafodiaith a elwir heddiw yn Romani Cymraeg. Dywedir mai siaradwr olaf yr iaith oedd Manfri Wood, un o deulu enwog Abram Wood.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Roma, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.