Rhanbarth gogleddol cyfandir Ewrop yw Gogledd Ewrop sydd yn cynnwys gwledydd Llychlyn, ynysoedd Prydain Fawr ac Iwerddon, y gwledydd Baltig a gogledd-orllewin Rwsia.
Weithiau cynhwysir yr Iseldiroedd a gogledd yr Almaen yn yr ardal hon, a weithiau cynhwysir Prydain ac Iwerddon yn rhan o Orllewin Ewrop yn hytrach na'r gogledd.
Yn ôl Adran Ystadegau'r Cenhedloedd Unedig, mae Gogledd Ewrop yn cynnwys 10 gwladwriaeth sofran: Denmarc, Estonia, y Ffindir, Gwlad yr Iâ, Gweriniaeth Iwerddon, Latfia, Lithwania, Norwy, Sweden, a'r Deyrnas Unedig. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys y tiriogaethau canlynol: Ynysoedd Åland (talaith ymreolaethol o'r Ffindir), Ynysoedd Ffaro (gwlad ymreolaethol o fewn Teyrnas Denmarc), Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel (trefedigaethau'r Goron Brydeinig), a Svalbard a Jan Mayen (ynysoedd sy'n rhan o Deyrnas Norwy).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gogledd Ewrop, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.