Vaasa

Dinas a phorthladd yng ngorllewin y Ffindir yw Vaasa (Ffinneg: Vaasa, Swedeg: Vasa) a leolir ar hyd arfordir Gwlff Bothnia.

Vaasa yw prifddinas ranbarthol Ostrobothnia. Mae ganddi hanes hir fel porthladd masnachol a marchnad amaethyddol, ac mae'n nodedig heddiw fel canolfan addysg uwch.

Vaasa
Vaasa
Vaasa
Mathdinas, bwrdeistref y Ffindir Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlHouse of Vasa Edit this on Wikidata
Poblogaeth69,036 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 Hydref 1606 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Helsingør, Harstad Municipality, Kiel, Schwerin, Dinas Pärnu, Šumperk, Umeå, Malmö, Morogoro, Olonets, Zhenjiang Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffinneg, Swedeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSwedish-speaking Ostrobothnia Edit this on Wikidata
SirOstrobothnia Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Ffindir Y Ffindir
Arwynebedd364.84 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIsokyrö, Laihia, Malax, Korsholm, Vörå Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau63.0958°N 21.6153°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Vaasa Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganSiarl IX o Sweden Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Vaasa gan Siarl IX, brenin Sweden ym 1606, ac enwir y ddinas ar ôl ei frenhinllin, Tŷ Vasa. Derbyniodd ei siarter ddinesig ym 1611. Datblygodd yn borthladd hynod o bwysig yn y Môr Baltig, a phrif gynhyrchion hanesyddol y ddinas yw coed, haearn, a dur. Yn sgil tân mawr ym 1852, ailadeiladwyd y ddinas 8 km yn agosach i'r môr. O 1855 i 1917, pan oedd Uchel Ddugiaeth y Ffindir dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia, ei henw swyddogol oedd Dinas Niclas (Ffinneg: Nikolainkaupunki, Swedeg: Nikolajstad), ar ôl y Tsar Niclas I. Ffoes llywodraeth y Ffindir o Helsinki i Vaasa yn Ionawr 1918, ac yma felly oedd prifddinas dros dro y Ffindir Wen yn ystod y rhyfel cartref.

Mae Vaasa yn borthladd pwysig o hyd, ac yn mewnforio nifer o ddefnyddiau crai i'r Ffindir. Mae'r diwydiannau lleol yn cynnwys melinau blawd a thecstilau, purfa siwgr, poptai mawr, a ffatrïoedd peiriannau a sebon. Heddiw, dyma canolfan economaidd gryf a chanddi safon byw uchel. Lleolir nifer o gwmnïau mawr yn Vaasa, yn y diwydiannau ynni, technoleg, ac addysg.

Un o brif atyniadau Vaasa yw Ynysfor Kvarken—a chanddi 5,500 o ynysoedd—a ddynodir yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Ymhlith yr atyniadau eraill mae Amgueddfa Ostrobothnia, parc dŵr Tropiclandia, a Chlwb Pêl-droed Wasa. Mae'n gartref i nifer o sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys Prifysgol Vaasa, Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Vaasa, a changhennau o Åbo Akademi, Ysgol Economeg Hanken, a Phrifysgol Helsinki.

Dinas ddwyieithog ydy Vaasa, a siaredir y Ffinneg fel iaith gyntaf gan 70% o drigolion a'r Swedeg gan 25%. Cynyddodd y boblogaeth o 56,600 ym 1998 i 57,200 yn 2005, ac i 68,000 yn 2023. Vasa ydy dinas 12fed fwyaf y Ffindir yn nhermau poblogaeth.

O ran ei hinsawdd, mae'r haf yn glaear a'r gaeaf yn oer yn Vaasa, a'r tymheredd yn amrywio o -10 gradd Celsiws yn y gaeaf i 20 gradd Celsiws yn yr haf.

Cyfeiriadau

Tags:

FfinnegSwedegY Ffindir

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

In My Skin (cyfres deledu)Birth of The PearlMette FrederiksenQuella Età MaliziosaThe Witches of BreastwickHiliaethGreta ThunbergWoyzeck (drama)Ieithoedd BrythonaiddSiôr (sant)AlmaenPussy RiotY Mynydd Grug (ffilm)Gwlad PwylY Rhyfel Byd CyntafGenetegAfon Clwyd23 MehefinL'âge AtomiqueConnecticutGwlff OmanAntony Armstrong-JonesY Fedal Ryddiaith2020Katwoman XxxO. J. SimpsonPafiliwn PontrhydfendigaidAdloniantAnna MarekGwobr Ffiseg NobelSupport Your Local Sheriff!Gwefan14 GorffennafY rhyngrwydPhilippe, brenin Gwlad BelgDyn y Bysus EtoEleri MorganAneirin KaradogLee TamahoriAfon GwendraethElipsoidMoscfaNaturAdnabyddwr gwrthrychau digidolEglwys Sant Beuno, PenmorfaEmmanuel MacronMerched y WawrYr wyddor Gymraeg14 ChwefrorAutumn in MarchMuscatVaniMarie AntoinetteRwsiaLe Porte Del SilenzioBrenhinllin ShangYsgol Gyfun Ystalyfera1971Gwobr Goffa Daniel OwenCaernarfonDynesYr Undeb EwropeaiddY CeltiaidDuY Mynydd BychanAil Frwydr Ypres2020au🡆 More