Mae Gwasg Gomer yn gwmni argraffu Cymreig.
Ar un adeg roedd yn un o'r cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg mwyaf yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1908 gan yr argraffydd a chyhoeddwr John David Lewis (1859 - 1914), ar sail busnes argraffu a ddechreuwyd ganddo ym 1892 yn Llandysul, Ceredigion; mae'r wasg yn dal i gael ei rhedeg yn y pentref heddiw. Fe'i henwir ar ôl yr awdur Joseph Harris (Gomer) (1773-1825).
Enghraifft o'r canlynol | gwasg, cyhoeddwr, family business |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Dechrau/Sefydlu | 1892 |
Rhagflaenwyd gan | Gwasg Aberystwyth |
Perchennog | Teulu Lewis, Gwasg Gomer |
Sylfaenydd | John David Lewis |
Pencadlys | Llandysul |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.gomer.co.uk |
Ehangodd y wasg trwy brynu Gwasg Aberystwyth ym 1945. Dros y blynyddoedd mae enw Gwasg Gomer wedi bod yn gysylltiedig â rhai o awduron mwyaf llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys D. J. Williams, T. Llew Jones, T. H. Parry-Williams, Islwyn Ffowc Elis, T. Rowland Hughes, Siân Lewis a Waldo Williams. Un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y wasg yw Sali Mali.
Yn Medi 2019 cyhoeddwyd y byddai cwmni Gomer yn cau eu adran gyhoeddi ond yn parhau gyda'r gwaith argraffu. Roedd hyn yn nodi diwedd 127 mlynedd o gyhoeddi. Dywedodd rheolwr y cwmni, Jonathan Lewis, y byddai'r newid strategol hwn yn sicrhau dyfodol y staff o 55. Yn 2021 cyhoeddwyd bod yr adran gyhoeddi wedi ei werthu i gwmniau Y Lolfa ac Atebol gan gynnwys catalog o dros 2,500 o lyfrau. Prynodd Y Lolfa y catalog o lyfrau i oedolion a rhan fwyaf o'r ffuglen gwreiddiol i blant. Prynodd Atebol yr holl lyfrau plant a chynnwys addysgiadol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwasg Gomer, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.