Islwyn Ffowc Elis: Awdur a gwleidydd o Gymru

Nofelydd Cymreig oedd Islwyn Ffowc Elis (17 Tachwedd 1924 – 22 Ionawr 2004) yn bennaf, ond roedd hefyd yn fardd, yn llenor, yn weinidog yr efengyl, yn ddarlledwr, yn swyddog ac yn ymgeisydd dros Blaid Cymru, yn ddarlithydd, ac yn athro Cymraeg ail iaith.

Derbyniodd ddisgrifiad ohono ef ei hunan fel ‘cyfathrebwr’ mewn cyfweliad teledu ar ‘Rhaglen Nia’.

Islwyn Ffowc Elis
Islwyn Ffowc Elis: Bywyd a gwaith, Prif weithiau, Astudiaethau
Islwyn Ffowc Elis (Llais Llyfrau 1980–1982)
Ganwyd17 Tachwedd 1924 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ionawr 2004 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, awdur storiau byrion, ysgrifennwr, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywyd a gwaith

Cafodd ei eni yn Wrecsam a'i fagu yn Nglynceiriog, pentref cwbl Gymraeg a Chymreig bryd hynny, tan ei fod yn bump oed, ac wedyn ar fferm y teulu, Aberwiel, ychydig tu allan i'r pentref a dwy filltir o ffin Lloegr. Priodolai Islwyn Ffowc Elis ei sêl dros feithrin y Gymru Gymraeg i’r ffaith y cawsai ei fagu mor agos i ffin Lloegr. Aeth i Ysgol Gynradd Nantyr cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llangollen ac wedyn i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor. Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn 1943, ar sail heddychiaeth Gristnogol. Dechreuodd lenydda’n 12 oed yn ysgol Llangollen, gan gynhyrchu barddoniaeth, storïau a dramâu. Tra yng Ngholeg Bangor enillodd gadair Eisteddfod Lewis’s Lerpwl. Tra yn y coleg y dechreuodd berfformio a darlledu yng nghwmni ei gyd-fyfyrwyr, gan ysgrifennu caneuon a llunio rifiwiau. Cyn mynd i'r weinidogaeth bu yng ngholegau diwinyddol Aberystwyth a Bangor.

Bu’n weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd o 1950 hyd 1956, yn Llanfair Caereinion ac yna Niwbwrch. Tra’n weinidog enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951, am gyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd wedyn gan Wasg Gomer, yn y gyfrol Cyn Oeri'r Gwaed. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman yn 1953. Ar yr un pryd roedd yn magu anfodlonrwydd gyda chrefydd gyfundrefnol, fel y mae’n egluro yn ei ysgrifau 'Lludw’r weinidogaeth', Y Dysgedydd (1952) ac 'Y colledigion', 'Yr hen gyfundrefn annwyl', a 'Machlud a gwawr y fugeiliaeth', Y Drysorfa (1955). At hynny nid oedd yn gysurus yn ei waith. Mewn cyfweliad yn Mabon 1(6) (1973) dywedodd:

"Fe ddaeth yn amlwg yn fuan nad oedd gen i dymheredd gweinidog. Roeddwn i’n rhy anghymdeithasol ac roedd yn gas gen i ymweld â thai i fân siarad; gwersi oedd fy mhregethau yn hytrach na pherorasiynau swnfawr (er gofid i’r saint), ac roedd mynychu pwyllgor a chyfarfod dosbarth a chyfarfod misol a sasiwn yn ing. Mi ddechreuais sgrifennu’n fwy toreithiog nag a wnaethwn i hyd yn oed mewn ysgol a choleg, ond doedd hynny ddim yn lleddfu’r gwewyr."

Ymddiswyddodd o’r weinidogaeth yn 1956 gan fentro ar gyfnod o chwe mlynedd a hanner heb swydd gyflogedig i’w gynnal ef a’i deulu, sef ei wraig Eirlys a’i ferch Siân. Yn hytrach enillai ei damaid o’i gynnyrch llenyddol, o’i waith darlledu ac ambell i gyfnod o waith cynhyrchu i’r BBC. Ef oedd y cyntaf i geisio cynnal ei hunan fel llenor Cymraeg proffesiynol, a phrin yw’r rhai hynny a lwyddodd i efelychu ei gamp ers hynny, o leiaf hyd at ddyddiau twf S4C.

Dyma ddau gofnod yn nyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) yn awgrymu peth o hanes ei fywyd yn y cyfnod hwn:

28 Mehefin 1958 (Porth Swtan): "Ym Mhorth Swtan gydag Islwyn Ffowc ac Eirlys, a gweld Ffwlmar yn nythu ar graig yn ymyl yr ymdrochwyr. Galw heibio i Lyn Llywenan ar y ffordd adref a gweld Gwyddau Canada a chadarnhau mai Telor yr Hesg (Sedge Warbler) a welsom y tro cynt y buom yma (Mai 27) [ac wedi ei ysgrifennu â beiro yn hytrach nag inc.....] ac nid reed-warbler.

12 Mehefin 1958 (Ynys Lawd): "Gydag Islwyn Ffowc yn South Stack. Gweld Ffwlmar wedi nythu mewn twll, ar bentwr o frigau, yn ymyl y grisiau"

Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr 20g wedi bod yn denu’r ifainc ledled Ewrop, gan gynnwys y Cymry Cymraeg. Roedd Islwyn Ffowc Elis ymhlith y rhai a welent fod yn rhaid creu diwylliant poblogaidd cyfoes rhag i’r ifainc droi eu cefn ar y Gymraeg. Roedd ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman, llawn cymeriadau ifainc byw, yn stori afaelgar oedd yn ymdrin â bywyd a themâu cyfoes. Dyma'r nofel a osododd sail y nofel Gymraeg fodern. Trwy’r nofel hon denwyd darllenwyr ifainc newydd i’r nofel Gymraeg. Mae’r ffaith mai Cysgod y Cryman yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau yn tystio i'w llwyddiant. Cysgod y Cryman enillodd gystadleuaeth ‘Llyfr y Ganrif’ yn 1999 ar gyfer llyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif. Dewiswyd Cysgod y Cryman hefyd yn un o ddeg o ‘Lyfrau’r Ganrif’ yn 2007 mewn ymgyrch a drefnwyd gan S4C.

Roedd peth o’i gynnyrch ysgafnaf hefyd wedi tynnu llid rhai beirniaid llenyddol yn ei ben, yn enwedig Y Gromlech yn yr Haidd ac Eira Mawr a ysgrifennodd yn ystod ei ail gyfnod o lenydda llawn amser rhwng 1971 a 1975. Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai hefyd ganeuon a sgriptiau radio a theledu, i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant poblogaidd. Ymhlith ei sgriptiau roedd Rhai yn Fugeiliaid (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar gyfer y teledu. Cynhyrchodd lenyddiaeth heblaw am nofelau, yn gyfieithiadau megis Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar (1961), yn ysgrifau, yn llyfrau academaidd, gan olygu cyfrolau eraill megis Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd (1956).

Yr un sêl dros y Gymru Gymraeg a lywiau ei gynnyrch llenyddol a ysgogai ei waith dros Blaid Cymru. Bu’n ymgeisydd seneddol ym Maldwyn ym 1962 a 1964. Ef oedd swyddog cyhoeddiadau Plaid Cymru adeg Is-etholiad Caerfyrddin, 1966. Ef oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth a chyhoeddusrwydd Plaid Cymru, gan gynllunio strategaeth gyhoeddusrwydd ymwthgar i Blaid Cymru a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf adeg ymgyrch Caerfyrddin.

Yn ogystal â bod ei lenyddiaeth yn ysbrydoli eraill i fynd ati i lenydda bu hefyd yn hybu llenorion ifainc drwy ei waith fel athro. Bu’n athro ar gyrsiau ar gyfer darpar-awduron. Bu’n Ddarlithydd ac yna’n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin (1963–1968) ac eto yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (1975–1990), lle bu hefyd yn Ddarllenydd er 1984. Bu’n Gyfarwyddwr Cyfieithu a chynhyrchu i’r Cyngor Llyfrau Cymraeg o 1968–1971. Cyfrannodd hefyd at y gwaith o ddysgu Cymraeg fel ail iaith. Bu’n cynnal cyrsiau Cymraeg fel ail iaith yng Ngholeg Bangor o 1959–1963. Hefyd yn yr un cyfnod bu’n paratoi deunydd cyrsiau ar gyfer dysgwyr, ar gyfer y radio ac ar gyfer Coleg Harlech a’r National Extension College.

Islwyn Ffowc Elis: Bywyd a gwaith, Prif weithiau, Astudiaethau 
Cadair Islwyn Ffowc Elis yng Nghastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru

"Y gŵr a lusgodd y nofel Gymraeg i'r ugeinfed ganrif" oedd y disgrifiad ohono yn Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Cyflwynodd teulu Ffowc Elis y gadair a enillodd yn Eisteddfod Lewis's Lerpwl i Gyngor Llyfrau Cymru – cadair yr eisteddai'r awdur arni i ysgrifennu nifer o'i nofelau, gan gynnwys Cysgod y Cryman.

Prif weithiau

Awdur

  • Cyn Oeri'r Gwaed, ysgrifau (Gwasg Aberystwyth, 1952)
  • Cysgod y Cryman, nofel (Gwasg Aberystwyth, 1953)
  • Ffenestri Tua'r Gwyll, nofel (Gwasg Aberystwyth, 1955)
  • Yn Ôl i Leifior, dilyniant i Cysgod y Cryman (Gwasg Aberystwyth, 1956)
  • Wythnos yng Nghymru Fydd, nofel dychan (Plaid Cymru, 1957)
  • Blas y Cynfyd, nofel (Gwasg Aberystwyth, 1958)
  • Tabyrddau'r Tabongo, nofel dychan (Gwasg Aberystwyth, 1961)
  • Cysgod y Cwmwl (1962)
  • Thema yn y Nofel Gymraeg (1963)
  • Y Blaned Dirion, ffuglen wyddonol (Gwasg Gomer, 1968)
  • Y Gromlech yn yr Haidd, nofel fer (Gwasg Gomer, 1971)
  • Eira Mawr, nofel fer (Gwasg Gomer, 1972)
  • Harris, drama (Gwasg Gomer, 1973)
  • Marwydos, storïau byrion (Gwasg Gomer, 1974)
  • Dirgelwch Tegla, cyfrol am E. Tegla Davies (1977)
  • Straeon y Pentan Daniel Owen (1981)
  • Caneuon Islwyn Ffowc Elis, trefnwyd gan Robat Arwyn (1988)
  • Naddion, ysgrifau ac erthyglau (1998)

Cyfieithydd

Islwyn Ffowc Elis: Bywyd a gwaith, Prif weithiau, Astudiaethau 
  • Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar (1961)
  • Noson y Ddawns, o'r Norwyeg, gyda Dilys Price (1965)

Golygydd

  • Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd (Gwasg y Brython, 1956)
  • Storïau'r Deffro (1959)
  • Llais o'r Dyffryn: Casgliad o Gerddi William Griffiths Glynceiriog (1964)
  • Twenty-five Welsh Short Stories, cyd-olygydd gyda Gwyn Jones (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1971)

Astudiaethau

Cyfeiriadau

Tags:

Islwyn Ffowc Elis Bywyd a gwaithIslwyn Ffowc Elis Prif weithiauIslwyn Ffowc Elis AstudiaethauIslwyn Ffowc Elis CyfeiriadauIslwyn Ffowc Elis17 Tachwedd1924200422 IonawrCymry

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Not the Cosbys XXXSanto DomingoAmwythigDiwydiant llechi CymruAnne, brenhines Prydain FawrAda LovelaceEwropHiltje Maas-van de KamerFacebookParalelogramDisturbiaTamilegCasi WynYr Apostol PaulOwen Morris RobertsAmser hafDyslecsiaPoner el Cuerpo, Sacar la VozWicipediaJames Francis Edward StuartHunan leddfuAnilingusCapreseFfloridaÉcole polytechniqueEnllibTylluan glustiogPachhadlelaTabl cyfnodolYmerodraethLGlaw1185Ffrainc1700auThe Fighting StreakEva StrautmannAberystwythCockingtonMark StaceyTŷ unnosRajkanyaFfilmGweriniaeth IwerddonLlys Tre-tŵrCristofferFisigothiaidRobert GwilymAwenDafydd IwanLlundainCala goegEsgidCockwoodUndduwiaethY Fenni2024BywydegCapel y NantAaron RamseyMyrddin2005North of Hudson BayMerthyrJoan EardleyTaekwondoR.O.T.O.R.🡆 More