Pontardawe: Tref a chymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Pontardawe.

Llifa'r Afon Tawe trwy ganol y dref, a enwir ar ôl y bont dros yr afon honno. Mae'r Afon Clydach Uchaf hefyd yn llifo trwy'r dre cyn ymuno â'r Tawe, ac mae rhan o Gamlas Abertawe (sydd pellach yn segur) i'w ganfod yno. Mae'n gartref i tua 5,000 o drigolion, gan ymestyn i mewn i bentrefi cysylltiedig Trebannws, Ynysmeudwy, Alltwen a Rhyd-y-fro.

Pontardawe
Pontardawe: Hanes, Cyfrifiad 2011, Yr iaith Gymraeg
Golygfa ar Bontardawe gydag Afon Tawe.
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLogunec'h Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7203°N 3.8534°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000621 Edit this on Wikidata
Cod OSSN721040 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJeremy Miles (Llafur)
AS/auChristina Rees (Llafur)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).

Hanes

Dechreuodd hanes Pontardawe fel croesffordd llwybrau porthmyn, un yn arwain o Abertawe i Aberhonddu a'r llall o Gastell-nedd i Landeilo. Recordiwyd yr enw ar fap am y tro cyntaf ym 1729, fel "Pont-ar-Dawye", yn New and Accurate Map of South Wales Emmanuel Bowen. Erbyn 1796, roedd Camlas Abertawe wedi cysylltu Pontardawe â dociau Abertawe. Galluogodd hygyrchedd y gamlas ddatblygiad diwydiant yn yr ardal, a ddechreuodd â gwaith haearn Ynysderw ym 1835. Gerllaw'r gwaith haearn, daeth tunplat a gwaith dur yn sylfaen i ddatblygiad y dref. Datblygodd William Parsons, diwydiannwr o Gastell-nedd, y diwydiant cynnar, cyn i deulu'r Gilbertsons o 1861 ymlaen ddod yn brif berchnogion y dref. Yn ogystal â gwaith metel, roedd sawl pwll glo yn yr ardal a diwydiant crochenwaith yn Ynysmeudwy.

O 1861 ymlaen, cysylltodd Rheilffordd Abertawe Pontardawe â gweddill y cwm tan ei ddad-gomisiynu yn 1964. Yn 1862, gorffennwyd adeiladu Eglwys Saint Pedr, a ariannwyd gan Mr Parsons. Yn ogystal â'i bensaernïaeth anghyffredin Ffrengig, mae'r Eglwys hyd at heddiw yn un o brif nodweddion y dref.

Ers 1978, cynhaliwyd Gŵyl Pontardawe am benwythnos ym mis Awst bob blwyddyn - gŵyl sy'n fwrlwm o berfformiadau cerddorol, traddodiadol a rhyngwladol.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontardawe (pob oed) (6,832)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontardawe) (2,083)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontardawe) (5661)
  
82.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pontardawe) (1,151)
  
39.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Yr iaith Gymraeg

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd gan 1,995 o drigolion y dref (neu 40.9% o'i phoblogaeth) y gallu i siarad, darllen neu ysgrifennu yn Gymraeg. Dyma ganran sydd llawer uwch na chyfartaledd Cymru gyfan (23.5%) ac mae'r fwrdeistref yn gyffredinol yn cynnwys 20.3% o siaradwyr Cymraeg. Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn darparu addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dre. Canolfan Gymraeg y dre a’r Cwm yw Ty Gwrhyd. Mae cyrsiau (gan Acadami Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe) a gweithgareddau ar gael i ddysgwyr ac i Gymry Cymraeg. Mae siop Cymraeg ar agor dyddiau Llun, Mercher, Gwener a bore dydd Sadwrn. Mae swyddfeydd Menter Iaith Castell nedd Port Talbot yn y ganolfan.

Cysylltiadau rhyngwladol

Mae Pontardawe wedi'i gefeillio â:

Enwogion

  • Gwenallt, llenor a bardd, a annwyd ym Mhontardawe ond symudodd y teulu yn fuan i'r Alltwen a roddodd iddo ei enw barddol Gwenallt.
  • Mari Hopcin, cantores
  • Gareth Edwards (ganwyd 1947), cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

  • The Pontardawe Historians, Around Pontardawe (Chalford Publishing Company, 1996), ISBN 0-7524-0691-4

Dolen allanol

Tags:

Pontardawe HanesPontardawe Cyfrifiad 2011Pontardawe Yr iaith GymraegPontardawe Cysylltiadau rhyngwladolPontardawe EnwogionPontardawe CyfeiriadauPontardawe LlyfryddiaethPontardawe Dolen allanolPontardaweAfon Clydach (Abertawe)Afon TaweAlltwenCamlas AbertaweCastell-nedd Port TalbotCymruCymuned (Cymru)Rhyd-y-froTrebannwsYnysmeudwy

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Pafiliwn PontrhydfendigaidRhian MorganCwrwProtonRichard Bryn WilliamsGwainGIG CymruWinslow Township, New JerseyDriggJapanCaerwyntDosbarthiad gwyddonol1865 yng NghymruFfilmLloegrConnecticutCydymaith i Gerddoriaeth CymruCwpan LloegrThomas Gwynn JonesGaius MariusAtlantic City, New JerseyRyan DaviesMiguel de CervantesMichael D. JonesY FaticanYsgrifennydd Amddiffyn yr Unol DaleithiauIndiaGalaeth y Llwybr LlaethogHaydn DaviesDelweddBenjamin NetanyahuParaselsiaeth784Streic y Glowyr (1984–85)Carles PuigdemontOrgasmBig Boobs18 HydrefY DiliauGwlad PwylRhestr o bobl a anwyd yng Ngweriniaeth IwerddonEmma NovelloChwyldroMaliCathSiot dwad wynebThe Witches of BreastwickGogledd IwerddonThe Principles of LustAnilingus1800 yng NghymruAmerican WomanRhestr afonydd CymruClwb C3Sawdi ArabiaGweriniaethBBC CymruCoden fustlManon Steffan RosMangoArthur George OwensCyfathrach Rywiol FronnolWoyzeck (drama)SbaenBoddi TrywerynAil Ryfel PwnigCiLlyn y MorynionRhif Llyfr Safonol Rhyngwladol🡆 More