Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy Mïosen (Saesneg: Miocene) (symbol MI) o fewn y cyfnod Neogen, sy'n ymestyn o tua 23.03 to 5.332 miliwn o flynyddoedd yn ôl (Ma).
System | Cyfres | Oes | Oes (Ma) | |
---|---|---|---|---|
Cwaternaidd | Pleistosenaidd | Gelasaidd | ifancach | |
Neogenaidd | Plïosenaidd | Piacensaidd | 2.588–3.600 | |
Sancleaidd | 3.600–5.332 | |||
Mïosenaidd | Mesinaidd | 5.332–7.246 | ||
Tortonaidd | 7.246–11.608 | |||
Serravallaidd | 11.608–13.65 | |||
Langhianaidd | 13.65–15.97 | |||
Bwrdigalaidd | 15.97–20.43 | |||
Acwitanaidd | 20.43–23.03 | |||
Paleogenaidd | Oligosenaidd | Cataidd | hynach | |
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009. |
Fe enwyd y cyfnod hwn gan Syr Charles Lyell daw'r enw o ddau air Groegaidd: μείων (meiōn, “llai”) a καινός (kainos, “newydd”) a golyga "llai diweddar" gan fod y cyfnod hwn yn cynnwys 18% yn llai o anifeiliaid di-asgwrn cefn na'r cyfnod Plïosen. Mae Mïosen yn dilyn y cyfnod Oligosen a daw'r Plïosen ar ei ôl.
Y Mïosen ydy epoc cyntaf y Cyfnod Neogen.
Roedd planhigion ac anifeiliaid y Cyfnod Mïosen yn gymharol fodern: roedd mamaliaid ac adar edi hen sefydlu erbyn y cyfnod hwn, felly hefyd y morfil, y morloi a gwymon. Mae'r cyfnod hwn o ddiddordeb mawr i ddaearegwyr gan y ffurfiwyd llawer iawn o fynyddoedd yr Himalayas ar yr adeg yma. Effaith hyn ar y tywydd yn Asia oedd ffurfio monswnau a rhewlifau yn Hemisffer y Gogledd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mïosen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.