M.
Twrci Amrediad amseryddol: Mïosen cynnar hyd heddiw | |
---|---|
Dau dwrci ym Mharc Gwledig Maesglas; 2013 | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Galliformes |
Teulu: | Phasianidae |
Is-deulu: | Meleagridinae |
Genws: | Meleagris Linnaeus, 1758 |
Rhywogaeth | |
gallopavo |
Aderyn eitha mawr ydy'r twrci sy'n perthyn i deulu'r Phasianidae sy'n deillio o'r Americas yn wreiddiol. Mae'r rhywogaeth a elwir yn ‘dwrci gwyllt’ (Meleagris gallopavo) yn wreiddiol o fforestydd Gogledd America. Mae'r math dof yn perthyn o bell iddo. Daw'r trydydd math (neu rywogaeth) - y twrci llygedynnog (Meleagris ocellata) o'r Benrhyn Yucatán.
Camddehonglodd yr Ewropead cyntaf i weld twrci yn America yr aderyn fel math o iâr gini (Numidiae). Arferid galw'r iâr gini yn Saesneg (ac ar lafar) fel turkey fowl, turkey hen a turkey cock oherwydd mai o wlad Twrci yr arferid eu mewnforio i Ewrop a dyma darddiad y gair. Yn 1550 anrhydeddwyd y fforiwr Saesneg William Strickland gydag arfbais fel gwobr am fewnforio'r twrci i Brydain am y tro cyntaf; wrth gwrs, roedd llun twrci ar yr arfbais.
Mae sawl rhywogaeth arall o'r twrci wedi'i ganfod ers cyfnod cynnar y Mïosen (c. 23 mya) gyda'r genws Rhegminornis a'r Proagriocharis bellach yn ddiflanedig. Math tebyg i'r Meleagris (o ddiwedd y cyfnod Mïosen) ydy'r Proagriocharis ac a ddarganfuwyd yn Westmoreland County, Virginia. Diflanodd y Meleagris californica, yn eitha diweddar - yn sicr - arferid ei hela gan bobl. A chredir iddo ddiflannu oherwydd newid yn yr hinsawdd ar ddiwedd Oes yr Iâ diwethaf ac oherwydd gorhela.
Mae'n draddodiad ers tua hanner canrif yng Nghymru a rhai gwledydd eraill ychydig cyn hynny i fwyta'r twrci ar ddydd Nadolig.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Twrci (aderyn), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.