Difodiant yw diwedd bywyd organeb byw, grwp o organebau byw (tacson) neu rywogaeth, fel arfer.
Gellir diffinio difodiant o ran amser fel y foment honno pan fo aelod ola'r rhywogaeth yn marw. Defnyddir y term gan mwyaf o fewn daeareg, bywydeg ac ecoleg. Ar adegau, ceir hyd i rywogaeth a gredwyd oedd wedi difodi; mae'n ailymddangos, yn dal yn fyw a gelwir hon yn rhywogaeth Lasarus, oherwydd i Lasarus, yn ôl y chwedl atgyfodi.
Math | diwedd, risg biolegol |
---|---|
Y gwrthwyneb | rhywogaethu |
Rhan o | diraddio'r amgylchedd, colli bioamrywiaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cred gwyddonwyr fod dros 99% o'r holl rywogaethau sydd erioed wedi byw ar wyneb Daear wedi difodi; mae hyn yn gyfystyr â phum biliwn o rywogaethau. Mewn cymhariaeth, amcangyfrifir fod rhwng 10 miliwn a 14 miliwn o rywogaethau'n fyw heddiw, gyda dim ond 1.2 miliwn ohonynt wedi eu cofnodi.
Gellir dweud i raddau fod difodiant yn broses cwbwl naturiol o ran esblygiad. Y ddau reswm mwyaf dros ddifodiant yw: yn gyntaf, amgylchiadau sy'n newid yn sydyn e.e. daeargrynfeydd ysgytwol neu newid tymheredd ac yn ail cystadleuaeth gan rywogaeth arall. Ar gyfartaledd mae rhywogaeth yn difodi wedi 10 miliwn o fodolaeth, er bod yr hyn a elwir yn 'ffosiliau byw' yn parhau am gannoedd o filiynau rhagor o fodolaeth, heb fawr o newid esblygol, morffolegol.
Statws cadwraeth unrhyw rywogaeth yw'r tebygrwydd y gallai'r rhywogaeth honno wynebu difodiant. Y mwyaf adnabyddus o'r rhestri statws cadwraeth yw Rhestr Goch yr IUCN.
Mae categoriau'r IUCN yn cynnwys:
(Hen gofrestriadau)
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Difodiant, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.