Y mwyaf o'r morfilod, ac anifail mwyaf y byd, yw'r morfil glas neu forfil asgellog glas (Balaenoptera musculus).
Morfil glas | |
---|---|
Morfil glas | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cetacea |
Teulu: | Balaenopteridae |
Genws: | Balaenoptera |
Rhywogaeth: | B. musculus |
Enw deuenwol | |
Balaenoptera musculus (Linnaeus, 1758) | |
Lledaeniad y Morfil Glas |
Credir mai ef yw'r anifail mwyaf a fu erioed. Gall y rhai mwyaf gyrraedd hyd o tua 33 medr a phwysau o tua 170 tunnell. Mae tafod y morfil glas tua'r un fain ag eliffant ac yn pwyso tua 2 dunnell.
Er gwaethaf ei faint, mae'n medru nofio'n gyflym, gan gyrraedd cyflymdra o 40 hyd 50 cilomedr yr awr. Maent yn bwydo ar blancton, yn arbennig cril. Gall un morfil fwyta tua 3500 kg mewn diwrnod. Mae ei diriogaeth yn cynnwys Cefnfor yr Iwerydd, y Cefnfor Tawel, Cefnfor India a Chefnfor y De. Erbyn tua dechrau'r 20g roedd y rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu oherwydd fod cymaint ohonynt wedi eu dal. Erbyn hyn, mae'r rhywogaeth yn cael ei gwarchod, a chredir fod rhwng 5,000 a 12,000 ohonynt bellach.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Morfil Glas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.