Mae'r llew (Panthera leo) yn un o bedwar o'r cathod mawr yn y genws Panthera, ac mae'n perthyn i'r teulu Felidae (cathod).
Llew | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Felidae |
Genws: | Panthera |
Rhywogaeth: | P. leo |
Enw deuenwol | |
Panthera leo (Linnaeus, 1758) |
Gyda rhai gwrywod yn rhagori 250 kg (550 lb) mewn pwysau, mae'r llew yn yr ail gath fwyaf sydd yn fyw heddiw ar y ôl y teigr.
Tan y Pleistosen hwyr, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, y llew oedd yr ail famal daearol gyda'r amrediad mwyaf, tu ôl i bobl. Gellir eu darganfod drwy'r rhan fwyaf o Affrica, llawer o Ewrasia, o orllewin Ewrop i'r India, ac yn yr Americas o'r Yukon i Beriw.
Os ydent yn goroesi'r peryglon o fywyd cynnar, gellir llewesau mewn cynhefinoedd diogel, fel parciau cenedlaethol, gyrraedd oedran o 12- 14 mlynedd, tra fod gwrywod yn anaml yn cyrraedd 8 mlynedd. Er hyn mae yno gofnodion o llewesau yn byw hyd at 20 mlwydd oed yn y gwyllt. Mae llewod caeth yn aml yn cyrraedd 20 mlwydd oed neu fwy.
Cynhefin nodweddiadol y llew yw safana a glaswelltiroedd, ond maent wedi eu darganfod mewn tiroedd prysglwyn ac mewn coedwigoedd.
Yn anghyffredin i gathod eraill, mae'r llew yn gath cymdeithasol iawn, wrth iddynt fyw mewn grwpiau teuluol sydd yn cynnwys grwp o lewesau perthynol a'u cenau, ac nifer bach o wrywod. Bydd y llewesau yn y grwpiau yma yn hela gyda'i gilydd, eu prif ysglyfaeth yw mamaliaid carnol. Mae'r llew yn ysglyfaethwr apig, serch hyn maent hefyd yn carthysu pan mae ganddynt y cyfle i wneud.
Mae'r llew yn rywogaeth bregus sydd wedi gweld y boblogaeth yn disgyn rhwng 30 a 50 y cant drost yr ugain mlynedd diwethaf. Er nid yw'r achos yn glir, mae colled cynhefin yn ô gystal â gwrthdaro gyda pobl yn cyfrannu at y colled mewn niferoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llew, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.