Mae Ddifodiannau Mawr Bywyd (Saesneg: mass extinction events) yn ddigwyddiadau byd-eang pan welir lleihad yn y bywyd sydd ar y Ddaear a hynny ar raddfa enfawr.
Gellir diffinio sawl difodiant drwy edrych ar y newid sylweddol yn yr amrywiaeth a nifer yr organebau amlgellog. Mae difodiannau o'r fath yn cael effaith ar gydrannau'r biosffêr.
'Dyw graddfa'r difodiannau mawr a welwyd dros y milenia ddim yn gyson: maen nhw'n digwydd heb batrwm o ran amser. Gellir dweud yn fras, o astudio ffosiliau fod difodiannau cefndirol yn digwydd tua 2 i 5 teulu (bioleg) (tacsonomegol) anifeiliaid morol bob miliwn o flynyddoedd. Dyma, felly, y math o ffosiliau a astudir yn fwyaf aml, oherwydd y cofnod manwl sydd ar gael ohonynt, o'i gymharu ag anifeiliaid y tir.
Y difodiant mawr cyntaf, mae'n debyg oedd yr 'Ocsigeneddio Mawr' (Great Oxygenation Event) pan welwyd diocsigen (O2) a gynhyrchwyd gan organebau biolegol yn atmosffer y blaned.
Y difodiant mawr diwedda pedd y Digwyddiad difodiant Cretasaidd-Paleogenaidd pan welwyd difodi llawer iawn o anifeiliaid a phlanhigion a hynny mewn amser cymharol fyr. Yn ychwanegol at y 5 prif ddifodiant mawr, ceir nifer o rai mân a'r difodiant hwnnw sy'n digwydd heddiw a achoswyd gan ddyn, a elwir weithiau y 6ed difodiant. Digwyddant gan mwyaf yn ystod y Ffanerosöig (yr Eon daearegol presennol, a'r un ble gwelwyd amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid yn esblygu).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Difodiant mawr bywyd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.