Haen o nwyon yw'r atmosffer (hefyd atmosffêr; o'r Groeg ἀτμός - atmos, vapor + σφαίρα - sphaira, sffêr) sy'n amgylchynu planed neu gorff digon sylweddol i'w gadw drwy atyniad ei ddisgyrchiant.
Math | nwy, cragen gwrthrych seryddol |
---|---|
Rhan o | gwrthrych seryddol |
Yn cynnwys | Q25571280 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae rhai planedau megis y Cewri Nwy, sef pedair planed allanol Cysawd yr Haul, yn ddim byd ond nwy, ac felly fe ellir dweud fod ganddynt atmosffer twfn.
Prif erthygl: Atmosffer y ddaear
Fel nifer o blanedau eraill, mae gan y Ddaear hithau fantell o nwyon amddifynnol o'i hamgylch sy'n eu hamddiffyn rhag tymheredd eithafol.
Nitrogen yw prif nwy atmosfferig y Ddaear. Ceir yn yr atmosffer hefyd ocsigen, sef nwy sy'n hanfodol i organebau byw resbiradu a'r nwy carbon deuocsid sy'n cael ei ddefnyddio gan blanhigion yn y broses o ffotosynthesis. Mae'r atmosffer hefyd yn fath o darian rhag niwed i enynnau organebau byw gan ymbelydredd uwchfioled yr haul.
Cymerwyd miliynau ar filiynau o flynyddoedd i'w greu gan newidiadau bio-cemegol wrth i organebau byw farw a dadelfennu.
Gwasgedd atmosfferig yw'r grym ar roddir yn berpendicwlar ar wyneb gan nwyon a chyfrifir hyn bob yn uned o arwynebedd. Mae'r gwasgedd atomosfferig yn ddibynol ar faint grym ei disgyrchiant a chyfanswm màs y golofn o nwyon uwch ei phen. Ar y Ddaear, mae'r unedau o wasgedd aer wedi eu safoni a gelwir hwy yn 'uned atmosfferig' (atm), a ddiffinir fel 101,325 Pa (760 Torr sef 14.696 pwys / modfedd agwâr (psi).
Pan ffurfiodd y Ddaear am y tro cyntaf 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl roedd yr atmosffer wedi gwneud yn bennaf o heliwm (50%) a hydrogen (50%). Roedd gweithgaredd folcanig dwys am y biliwn blwyddyn nesaf yn rhyddhau carbon deuocsid, amonia, ager (anwedd dwr), methan, carbon monocsid, asid hydroclorig yn ogystal â nwyon sylffwr gwahanol. Dros amser cyddwysodd y dŵr i ffurfio cefnforoedd lle datblygodd bacteria ffotosynthetig. Gwelodd leihad yn y carbon deuocsid a chynyddiad yn yr ocsigen. Roedd lleihad yn amonia'r aer gan ei fod yn adweithio a'r ocsigen i greu nitrogen ac anwedd dwr. Roedd lleihad yn y methan gan fod yn adweithio a'r ocsigen i ryddhau ocsigen ac anwedd dwr. Dros amser hir iawn cafodd y carbon deuocsid ei gloi o fewn creigiau gwaddodol oedd yn ffurfio o gregyn anifeiliaid morol (calchfaen a sialc) drwy broses o'r enw ffosileiddio. Hefyd roedd carbon deuocsid yn hydoddi yn y cefnforoedd. Arosodd yr atmosffer yn weddol sefydlog am amser hir nes i weithgaredd dynol gynyddu cyfansoddiad carbon deuocsid o 0.3% a 0.4% drwy hylosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Atmosffer, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.