Un o frwydrau pwysicaf Rhyfel Cartref America oedd Brwydr Gettysburg.
Ymladdwyd y frwydr rhwng 1 Gorffennaf a 3 Gorffennaf 1863, gerllaw tref Gettysburg, Pennsylvania, rhwng byddin yr Undeb dan George Gordon Meade a byddin y De dan Robert E. Lee. Ystyrir buddugoliaeth y Gogledd yn drobwynt yn hanes y rhyfel.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | Gorffennaf 1863 |
Rhan o | eastern theater of the American Civil War |
Dechreuwyd | 1 Gorffennaf 1863 |
Daeth i ben | 3 Gorffennaf 1863 |
Lleoliad | Adams County |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Wedi ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Chancellorsville ym mis Mai 1863, arweiniodd Lee ei fyddin tua'r gogledd, gan obeithio medru gorfodi'r Gogledd i roi'r gorau i'r rhyfel. Dri diwrnod cyn y frwydr, roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln wedi diswyddo'r cadfridog Joseph Hooker, a rhoi arweiniad byddin y Gogledd i Meade.
Dechreuodd yr ymladd ar 1 Gorffennaf, ac wedi ymladd ffyrnig o amgylch tref Gettysburg, gorfodwyd lluoedd y Gogledd i encilio i fryniau ychydig i'r de o'r dref. Ar yr ail ddiwrnod, ymosododd Lee ar adain chwith ac adain dde byddin Meade, ond llwyddodd milwyr yr Undeb i'w gwrthsefyll. Ar y trydydd diwrnod, ymosododd Lee eto. Y digwyddiad pwysicaf oedd ymosodiad gan 12,500 o filwyr y De a adwaenir fel Ymosodiad Pickett, yn erbyn canol byddin yr Undeb. Bu raid i filwyr Pickett encilio gyda cholledion trwm, a'r noson honno. arweiniodd Lee yn fyddin yn ôl tua Virginia.
Ym mrwydr Gettysburg y cafwyd colledion trymaf y Rhyfel Caretref, gyda rhwng 46,000 a 51,000 wedi eu lladd neu eu clwyfo. Ym mis Tachwedd, cysegrwyd mynwent yn Gettysburg i ail-gladdu'r meirwon o'r fwydr, ac ar yr achlysur yma y traddododd Abraham Lincoln Anerchiad Gettysburg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Brwydr Gettysburg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.