Santes o'r 6g oedd Llechid, sefydlydd a nawddsant plwyf Llanllechid, yn Arllechwedd, Gwynedd.
Llechid | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Gwynedd |
Man preswyl | Llanllechid |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Blodeuodd | 560 |
Dydd gŵyl | 1 Rhagfyr |
Tad | Ithel Hael |
Y cwbl gwyddom amdani yw ei bod yn ferch i Ithel Hael (Ithael Hael). Dihangodd ei theulu o Lydaw gyda teulu Emyr Llydaw gan ymsefydlu ar arfordir gorllewin Gwynedd gyda chaniatâd teulu Maelgwn Gwynedd. Ceir dwy achrestr o blant Ithel. Yn y gyntaf cyfeirir at y seintiau Tanwg Gredifael a Fflewyn fel plant iddo. Cysylltir yr rhain â Gwynedd. Mae'r achrestr arall yn ei gwneud yn chwaer i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, a Baglan.
Ar un adeg bu Ffynnon Llechid yn ymyl hen eglwys ger y pentref. Dwedwyd fod dŵr y ffynnon yn medru wella afiechydon y croen a rhai mathau o'r dicáu.
Ei gwylmabsant yw 1 Rhagfyr (neu'r 2il).
Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llechid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.