Madog Ap Llywelyn: Gwrthryfelwr 1294

Prif arweinydd gwrthryfel Cymreig 1294-95 a Thywysog Cymru, elwir weithiau 'Gwrthryfel Madog', oedd Madog ap Llywelyn (fl.

Gyda Cynan ap Maredudd yn y Canolbarth a Maelgwn ap Rhys y De, llwyddodd am gyfnod i ryddhau rhannau o Gymru o afael y Saeson fel arweinydd gwrthryfel cenedlaethol a ymladdwyd ar draws Gymru.

Madog ap Llywelyn
Madog Ap Llywelyn: Bywgraffiad, Llyfryddiaeth, Gweler hefyd
GanwydGwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw1312 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethymladdwr rhyddid Edit this on Wikidata
Blodeuodd1294 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCastell Morlais Edit this on Wikidata
TadLlywelyn ap Maredudd ap Llywelyn Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Aberffraw Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Roedd Madog ap Llywelyn yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd. Bu'n wrthwynebus i bolisïau Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, cyn y goncwest. Mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru mewn dogfen a elwir yn "Gytundeb Penmachno" ac arweiniodd y Cymry, oedd wedi'u digio gan drethi newydd a thelerau sarhaus Statud Rhuddlan (1284), mewn cyfres o ymosodiadau ar filwyr Edward I o Loegr.

Uchafbwynt y gwrthryfel oedd yr ymosodiad ar dref Caernarfon a'i chastell yn 1294. Bu Madog a'i ddilynwyr yn weithgar yn y Canolbarth, ym Môn ac yn y Berfeddwlad hefyd, yn arbennig yn arglwyddiaeth Dinbych. Cofnodir fod Madog wedi mabwysiadu'r teitl Tywysog Cymru tua'r adeg yma.

Mewn ymateb daeth Edward I i ogledd Cymru, gan gyrraedd Castell Conwy ar Ŵyl San Steffan 1294, ond i gael ei hun dan warchae yno am ddeg diwrnod ym mis Ionawr. Adferodd y brenin ei awdurdod serch hynny ond parhaodd y gwrthryfel am gyfnod. Yna, pan oedd ef, Madog, a'i wŷr ar eu ffordd i lawr i Bowys yn 1295, cafodd ei drechu gan Iarll Warwig ym Mrwydr Maes Maidog.

Ildiodd Madog ar ddiwedd 1295. Ni wyddys beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Cymerodd y Saeson 74 o wystlon o Sir Gaernarfon a Meirionnydd i sicrhau heddwch ar ôl i'r gwrthryfel ddarfod ond nid yw enw Madog yn eu plith.

Madog Ap Llywelyn: Bywgraffiad, Llyfryddiaeth, Gweler hefyd 
Cofeb Madog ap Llywelyn yn Eglwys yr Holl Saint, Wrecsam.

Llyfryddiaeth

  • J.G. Edwards, "The Battle of Maes Meidiog and the Welsh Campaign of 1294-95", yn The English Historical Review (cyf. xxxix, 1924)
  • John Griffiths, "The Revolt of Madog ap Llywelyn, 1294-5", yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (cyf. 16, 1955)
  • J.E. Morris, The Welsh Wars of Edward I (1901)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Madog Ap Llywelyn BywgraffiadMadog Ap Llywelyn LlyfryddiaethMadog Ap Llywelyn Gweler hefydMadog Ap Llywelyn CyfeiriadauMadog Ap Llywelyn12771312Brenin & Tywysog CymruCynan ap MareduddGwrthryfel Cymreig 1294-95

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Kirsten OswaldMET-ArtJón GnarrDavid T. C. DaviesCyffur gwrthlid ansteroidolGweriniaeth Ddemocrataidd yr AlmaenCwinestrolTabernacl tunHafanEirlysDeallusrwydd artiffisialCosiSochiCasachstanAshland, OregonGwladBehind Convent WallsTŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)Eagle EyeMelangellFietnamCystadleuaeth Cân EurovisionWcráinCyfathrach rywiolTîm pêl-droed cenedlaethol CymruGwledydd y byd1955Gareth MilesBrenhinllin Tang2006Dydd Gwener y GroglithY Deyrnas Unedig1965Wilhelm DiltheyCanolfan y Celfyddydau AberystwythCymedrViv ThomasOceaniaSlofaciaBermudaAligator3 TachweddSisters of AnarchyThe Disappointments RoomPwylegFfilm1214Dydd Iau CablydWilliam John Gruffydd (Elerydd)HwngariCamilla, Brenhines Gydweddog y Deyrnas UnedigBeti GeorgePencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2008Ffibrosis yr ysgyfaintOrganau rhywGweriniaeth Pobl TsieinaTulia, TexasLlyffantDeinosorA Beautiful PlanetVirginiaFabiola de Mora y AragónBloc PartyPussy RiotMain Page🡆 More