Y ddisgyblaeth o gasglu, dadansoddi, gwireddu, a chyflwyno newyddion ynglŷn â materion cyfoes, gogwydd ffasiwn, a phobl yw newyddiaduraeth.
Gelwir un sydd yn gweithio yn newyddiaduraeth yn newyddiadurwr, boed broffesiynol neu amatur.
Gall y cyfrwng fod yn un o nifer: papurau newydd a cylchgronau, radio a theledu oedd y fformat draddodiadol tan yr 21ain ganrif pan ddaeth llwyfanau digidol fel gwefanau cyfrifiadaurol ac apiau ar gyfer ffonau a thabledi.
Yn y gymdeithas sydd ohoni, ystyrir y 'newyddion' yn brif gyfrwng neu hyrwyddwr gwybodaeth gyfoes, newydd ac am y newidiadau mewn materion cyhoeddus o dydd i ddydd. Ond nid dyma yw hyd a lled newyddiaduraerth, a gall anturio i faesydd fel ymchwil i fywydau pobl, neu gamweinyddu, llenyddiaeth, ffilmiau a sinema. Mewn sawl gwlad caiff ei reoli i wahanol raddau gan Lywodraeth y wlad, fel erfyn gwleidyddol.
Ymhlith newyddiadurwyr cynharaf yr Unol Daleithiau roedd: Horace Greeley (1811–1872) – sefydlydd y New York Tribune, Thomas Nast (1840–1902) – tad cartwnau dychanol ac Anne Newport Royall (1769–1854) y ferch gyntaf i holi Arlywydd yr UDA a Golygydd Paul Pry (1831–36) a The Huntress (1836–54) yn Washington, D.C. Yn Hong Cong bu Jimmy Lai yn Golygu'r Apple Daily a charcharwyd Ching Cheong, golygydd The Straits Times gan Weriniaeth Tsieina.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Newyddiaduraeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.