Parc cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n un o dri yng Nghymru.
Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Fe'i ffurfiwyd ym 1957.
Math | un o barciau cenedlaetho Cymru a Lloegr, Geoparc |
---|---|
Poblogaeth | 33,485 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, Torfaen, Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,344 km² |
Cyfesurynnau | 51.88°N 3.4°W |
Cod SYG | W18000001 |
Rheolir gan | Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Statws treftadaeth | Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol |
Manylion | |
Yn Ebrill 2023, cyhoeddwyd y byddai'r awdurdod yn defnyddio ei enw Cymraeg 'Bannau Brycheiniog' yn unig o hyn ymlaen.
Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.
Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeyn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.
Ar 17 Ebrill 2023, 66 mlynedd i'r dydd wedi sefydlu'r Parc, cyhoeddwyd mai yr enw Gymraeg, Bannau Brycheiniog, bydd enw swyddogol y Parc. Yn ôl penaethiaid y parc mae'n gam fydd yn dathlu a hybu diwylliant a threftadaeth yr ardal.
Mae'n rhan o strategaeth newydd ar gyfer dyfodol y parc, sy'n ceisio mynd i'r afael â heriau amgylcheddol difrifol. "Roedd hi just yn teimlo fel amser da i ailafael yn yr hen enw am yr ardal. Mae'n efelychu ein ymrwymiad ni i'r iaith Gymraeg," eglurodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Catherine Mealing-Jones. Dyma fydd yr ail barc cenedlaethol i hawlio enw Cymraeg yn unig, yn dilyn penderfyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2022.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.