Roedd Sarah Siddons (5 Gorffennaf 1755 – 8 Mehefin 1831; nee Kemble) yn actores o Gymru, a gofir yn bennaf am ei phortread o 'Lady Macbeth'.
Fe'i hystyrir gan lawer fel actores drasig fwya'r 18g. Ganwyd Sarah yn Aberhonddu, yn ferch i Roger Kemble a oedd yn rheolwr cwmni o actorion, sef y Warwickshire Company of Comedians. Roedd ei chwaer Ann Hatton yn nofelydd poblogaidd.
Sarah Siddons | |
---|---|
Ganwyd | Sarah Kemble 5 Gorffennaf 1755 Aberhonddu |
Bu farw | 8 Mehefin 1831 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | actor llwyfan |
Tad | Roger Kemble |
Mam | Sarah Ward |
Priod | William Siddons |
Plant | Henry Siddons, Sarah Martha Siddons, Emma Siddons, Frances Emilia Siddons, George John Siddons, Cecilia Siddons, Eliza Ann Siddons, Maria Siddons |
Yn Aberhonddu ceir tafarn o'r enw "Sarah Siddons" ac roedd injan a adeiladwyd gan gwmni Metropolitan-Vickers a oedd yn rhedeg ar rwydwaith Trafnidiaeth Llundain yn dwyn ei henw, ond a roddwyd yr injan i orffwys yn 1961. Mae 'Cymdeithas Sarah Siddons' yn parhau i gyflwyno gwobr y Sarah Siddons Award yn Chicago'n flynyddol i actores amlwg.
Ar 12 Ebrill 2010, darlledodd BBC Radio 4 y cyntaf o bum rhaglen am ei pherthynas hir gyda'r arlunydd Thomas Lawrence. Sgwennwyd y sgript gan David Pownall.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sarah Siddons, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.