William Crwys Williams: Bardd, pregethwr ac archdderwydd

Bardd Cymraeg oedd William Crwys Williams (enw barddol: Crwys) (4 Ionawr 1875 - 13 Ionawr 1968).

Roedd yn Archdderwydd Gorsedd y Beirdd rhwng 1939 a 1947.

William Crwys Williams
William Crwys Williams: Bywgraffiad, Gwaith llenyddol, Llyfryddiaeth
FfugenwCrwys Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Ionawr 1875 Edit this on Wikidata
Craig-cefn-parc Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 1968 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
SwyddArchdderwydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Brodor o Graig Cefn Parc, ger Abertawe oedd Crwys. Roedd yn fab i grydd, ac yn ei dŷ nid oedd llawer o lyfrau ond y Beibl ac ychydig o rai eraill. Ond roedd ewythr Crwys, Ap Llywelyn yn fardd ac yn un â'r gallu i englyna. Ef a fagodd ddiddordeb Crwys mewn barddoniaeth. Cynghaneddwr yn bennaf oedd Ap Llywelyn, ond ei waith crefyddol oedd yn dal sylw Crwys. Ganed mewn tŷ wrth ymyl Mynydd y Gwair yn 1875 , ond ni arhosodd yno drwy ei oes, yn hytrach, aeth i ffwrdd i'r gogledd am ychydig. [angen ffynhonnell]

Cymerodd ei enw Crwys o enw Capel yr Annibynwyr, 'Pant y Crwys' yn ei bentref.

Aeth i Ysgol Rhydaman lle roedd yn paratoi i ddod yn weinidog, byddai'n mynd ar hyd y ffordd i Landeilo yn aml iawn i'r ysgol, a mynd heibio i garreg filltir. Yr un yw hwn sydd yn ei gerdd enwog - 'Y Garreg Filltir'. Aeth o'r ysgol yn Rhydaman i Goleg Bangor lle y cyfarfu â'i wraig, Grace Harriet Jones.

Yna symudodd i Frynmawr i weinidogaethu, ond pregethai yn Saesneg gan amlaf, ac roedd ei blant hyd yn oed yn siarad Saesneg! Yn ei ôl ef, roedd gweld yr iaith Gymraeg yn marw yn yr ardal yn ei dristhau'n arw. Cymharodd ei ardal - Nant y Glo i Nant yr Eira a dywedodd nad oedd y Gymraeg yn medru byw yn y glo, nid fel oedd mewn eira.

Gwaith llenyddol

Roedd prif dylanwadau Crwys yn cynnwys beirdd fel Watcyn Wyn, John Morris Jones a Ceiriog. Dechreuodd sylwi mwy ar y technegau a ffyrdd o ysgrifennu, ac fe ddaeth ei neges yn gliriach o farddoni mewn arddull delynegol. Un o'i delynegion mwyaf enwog yw 'Melin Trefin'.

Enillodd y goron dair gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ym 1910 (ar 'Ednyfed Fychan', 1911 ('Gwerin Cymru') a 1919 ('Morgan Llwyd o Wynedd').

Llyfryddiaeth

Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi:

  • Cerddi Crwys (1920)
  • Cerddi Newydd Crwys (1924)
  • Trydydd Cerddi Crwys (1935)
  • Cerddi Crwys: y pedwerydd llyfr (1944)

Ysgrifennodd hunangofiant yn ogystal:

  • Mynd a Dod (1945)

Cyfeiriadau

Tags:

William Crwys Williams BywgraffiadWilliam Crwys Williams Gwaith llenyddolWilliam Crwys Williams LlyfryddiaethWilliam Crwys Williams CyfeiriadauWilliam Crwys Williams13 Ionawr18751939194719684 IonawrArchdderwyddBarddEnw barddolGorsedd y Beirdd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

GwymonBaner yr Unol DaleithiauThe Public DomainDriggJohn OgwenIncwm sylfaenol cyffredinolFfôn symudolKyivGweriniaeth Pobl WcráinCyfanrifPeredur ap GwyneddPussy Riot4 AwstEtholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999Seren a chilgantBoynton Beach, FloridaDrôle De FrimousseY rhyngrwydCreampieHunan leddfuMahanaMuskegPen-caerAmanita'r gwybedFfilm llawn cyffroPessachDei Mudder sei GesichtJim MorrisonSulgwynIâr (ddof)AlldafliadFfrangegParaselsiaethParth cyhoeddusAdieu, Lebewohl, GoodbyeTraethawdMantraBlogLes Saveurs Du PalaisYsgol y MoelwynColeg TrefecaY Groes-wenAmazon.com2014Brithyn pruddTrychineb ChernobylCatfish and the BottlemenPysgodyn2002Myrddin ap DafyddHarri VII, brenin LloegrMichelle ObamaMater rhyngseryddolFari Nella NebbiaPyramid sgwârCynnyrch mewnwladol crynswthEl Complejo De FelipeDylan Ebenezer25 MawrthBelarwsBonheur D'occasionTrofannauSystem rheoli cynnwysJac a WilMane Mane KatheSefydliad WicifryngauGwefanMawnBeibl 1588Are You Listening?2011Orlando BloomOld HenryEisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885🡆 More