Pregethwr, bardd, nofelydd, emynydd ac ysgolfeistr enwog iawn yn ei ddydd oedd Watcyn Wyn, enw llawn Watkin Hezekiah Williams (1844 – 1905), a aned ger Brynaman yn Sir Gaerfyrddin.
Watcyn Wyn | |
---|---|
Ffugenw | Watcyn Wyn |
Ganwyd | 7 Mawrth 1844 Brynaman |
Bu farw | 19 Tachwedd 1905 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, glöwr, athro |
Glowr oedd ar ôl gadael ysgol yn gynnar, ond fe aeth ati i addysgu ei hun. Sefydlodd ysgol, sef Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman a roddodd gyfle i nifer fawr o fechgyn fedru mynd i'r weinidogaeth.
Roedd Watcyn Wyn yn eisteddfodwr brwd ac yn adnabod nifer o ffigyrau mawr yr oes. Er nad oes llawer o werth parhaol i'r rhan fwyaf o'i gerddi, ysgrifennodd hunangofiant - Adgofion Watcyn Wyn - sy'n cynnwys adrannau am ei blentyndod a llencyndod yn ardal Brynaman.
Ar y cyd ag Elwyn Thomas ysgrifennodd ddwy nofel ramantaidd yn ogystal.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Watcyn Wyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.