Guangzhou (Tsieineeg wedi symleiddio: 广州; Tsieineeg traddodiadol: 廣州; pinyin: Guǎngzhōu), hefyd Canton, yw prifddinas talaith Guangdong, Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2005 yn 3,152,825, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 9,496,800. Hi yw trydydd ardal ddinesig Tsieina o ran poblogaeth, ar ôl Beijing a Shanghai.
Math | rhanbarth lefel is-dalaith, dinas lefel rhaglawiaeth, dinas fawr, mega-ddinas, metropolis |
---|---|
Prifddinas | Ardal Yuexiu |
Poblogaeth | 18,676,605 |
Pennaeth llywodraeth | Guo Yonghang |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Gefeilldref/i | Prag, Frankfurt am Main, Vilnius, Istanbul, Sydney, Bari, Gwangju, Fukuoka, Ōita, Viña del Mar, Durban, Arequipa, Surabaya, Recife, Auckland, Los Angeles, Lyon, Manila, Bangkok, Birmingham, Vancouver, Linköping Municipality, Auckland City, Łódź, Noboribetsu, Valencia, Dhaka, Dubai, Tampere, Dinas Ho Chi Minh, Kyiv |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Delta Afon Perl |
Sir | Guangdong |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Arwynebedd | 7,248.86 km² |
Uwch y môr | 21 metr |
Gerllaw | Afon Perl |
Yn ffinio gyda | Zhaoqing, Zhongshan |
Cyfesurynnau | 23.13°N 113.26°E |
Cod post | 510000 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | People's Government of Guangzhou Municipality |
Corff deddfwriaethol | Guangzhou Municipal People's Congress |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Guangzhou |
Pennaeth y Llywodraeth | Guo Yonghang |
Saif y ddinas ger aber Afon y Perlau, heb fod ymhell o Hong Cong. Credir i'r ddinas gael ei sefydlu gyntaf fel Panyu yn 214 CC. Anrheithiwyd y ddinas gan Arabiaid a Persiaid yn 758. Datblygodd i fod yn borthladd pwysig, ac mae'n parhau i fod yn un o borthladdoedd mwyaf y byd heddiw.
Mae maes awyr rhwngwladol Baiyan (côd CAN) yn gwasanaethu’r ddinas. Mae’n 28 cilomedr o ganol y ddinas. Agorwyd Baiyan yn 2004 ac mae tua 25 miliwn o bobl yn ei ddefnyddio’n flynyddol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Guangzhou, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.