Teulu ieithyddol sydd yn cynnwys o leiaf 35 o ieithoedd yw'r ieithoedd Tyrcaidd neu'r ieithoedd Tyrcig a siaredir gan y bobloedd Dyrcig ar draws Ewrasia, yn Nwyrain Ewrop, y Cawcasws, Canolbarth Asia, Gorllewin Asia, Gogledd Asia (yn enwedig Siberia), a Dwyrain Asia.
Tarddodd yr ieithoedd Tyrcaidd, ar ffurf y broto-Dyrceg, yng ngorllewin Tsieina a Mongolia, a lledaenodd i'r gorllewin, ar draws rhanbarth Tyrcestan a thu hwnt, yn sgil ymfudiadau'r bobloedd Dyrcig yn ystod y mileniwm cyntaf OC. Siaredir iaith Dyrcaidd yn frodorol gan ryw 170 miliwn o bobl, a chan gynnwys siaradwyr ail iaith mae mwy na 200 miliwn o bobl yn medru ieithoedd o'r teulu hwn. Tyrceg ydy'r iaith Dyrcaidd a chanddi'r nifer fwyaf o siaradwyr, ac mae ei siaradwyr brodorol yn Anatolia a'r Balcanau yn cyfri am ryw 40% o'r holl siaradwyr Tyrcaidd yn y byd.
Enghraifft o'r canlynol | teulu ieithyddol |
---|---|
Math | Ieithoedd Altaig (dadleuol) |
Yn cynnwys | Common Turkic, Oghuric |
Nifer y siaradwyr | |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sawl ffordd o ddosbarthu'r ieithoedd Tyrcaidd, a fel rheol fe'i rhennir yn ddau gangen – yr ieithoedd Oghur a'r ieithoedd Tyrcaidd Cyffredin – a chwech neu saith is-gangen. O'r ieithoedd byw, Tsafasieg yw unig aelod y gangen Oghur; mae'r gangen Dyrcaidd Cyffredin yn cynnwys pob iaith Dyrcaidd byw arall, gan gynnwys yr is-ganghennau Oghuz, Kipchak, Karluk, Arghu, a Siberaidd. Nodweddir yr ieithoedd Tyrcaidd gan gytgord llafariaid, cyflyniad, a diffyg cenedl enwau. Rhennir cyd-ddealltwriaeth i raddau helaeth gan ieithoedd yr is-gangen Oghuz, gan gynnwys Tyrceg, Aserbaijaneg, Tyrcmeneg, Qashqai, Gagauz, a Gagauz y Balcanau, a hefyd Tatareg y Crimea, iaith Kipchak sydd wedi ei dylanwadu'n gryf gan dafodieithoedd Oghuz. Rhennir cyd-eglurder i raddau gan ieithoedd yr is-gangen Kipchak, yn enwedig y Gasacheg a'r Girgiseg. Gellir gwahaniaethu rhyngddynt yn seinegol tra bo'r eirfa a'r ramadeg yn hynod o debyg. Hyd at yr 20g, ysgrifennwyd y Gasacheg a'r Girgiseg drwy gyfrwng y ffurf lenyddol ar Tsagadai. Gellir dadlau bod elfen gref o gontiniwum tafodieithol yn perthyn ar draws y gwahanol ieithoedd Tyrcaidd.
Dengys yr ieithoedd Tyrcaidd gryn dipyn o debygrwydd i'r ieithoedd Mongolaidd, Twngwsaidd, Coreaidd, a Japonaidd. O'r herwydd, awgrymodd ambell ieithydd eu bod i gyd yn perthyn i'r teulu ieithyddol Altäig, ond bellach gwrthodir y dosbarthiad hwnnw gan ieithyddion hanesyddol, yn enwedig yn y Gorllewin. Am gyfnod, tybiwyd i'r ieithoedd Wralaidd berthyn i'r rheiny hefyd yn ôl y ddamcaniaeth Wral-Altäig. Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i gytuno ar fodolaeth y naill macro-deulu ieithyddol na'r llall, a phriodolir cyd-nodweddion yr ieithoedd hynny i gyswllt iaith cynhanesyddol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ieithoedd Tyrcaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.