Priodoledd gramadegol yw cenedl enwau.
Mae cenedl enwau yn amrywio yn ôl iaith. Yn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd, sy'n cynnwys y Gymraeg a'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop, Iran ac is-gyfandir India, mae enwau'n gallu bod yn wrywaidd, benywaidd neu (weithiau) yn ddiryw (neu ddigenedl). Yn achos rhai ieithoedd eraill fel Siapaneg a Tsieineeg ni cheir cenedl enw o gwbl. Mater o gyfleustra gramadegol yn unig yw'r termau 'benywaidd' a 'gwrywaidd' yma.
Yn y Gymraeg mae enwau'n naill ai'n fenywaidd neu wrywaidd.
Mae rhai enwau'n amrywio o ran cenedl yn ôl bro neu dafodiaith. Yn ogystal, ceir rhai enghreifftiau o enwau'n newid cenedl gydag amser, e.e. mae dinas yn enw benywaidd heddiw ond bu'n wrywaidd cynt; gwelir yr hen genedl o hyd mewn enwau lleoedd, e.e. Braich-y-Dinas. Weithiau mae cenedl enw yn amrywio yn ôl ystyr y gair, e.e. golwg ("yn y golwg" ond "yr olwg arno!"). Yn achos rhai geiriau benthyg diweddar mae'r genedl yn fater o ddewis gan nad ydynt wedi cael yr amser i ymgartrefu yn yr iaith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cenedl enwau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.