Braich-y-Dinas oedd un o'r bryngaerau gorau o'i math yng ngwledydd Prydain nes iddi gael ei dinistrio'n llwyr gan waith chwarel lleol ar ddechrau'r 20g.
Safai tua 1,500 troedfedd i fyny ar ben y Penmaen-mawr, mynydd gwenithfaen a leolir rhwng trefi Penmaenmawr a Llanfairfechan ar lan Bae Conwy, gogledd Cymru. Erbyn hyn mae'r gaer wedi diflannu ac mae'r mynydd ei hun yn 500 troedfedd is nag y bu. Yn ffodus gwnaed arolwg o'r safle a'i chloddio'n rhannol yn 1909: yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 1912-15 yw ein prif ffynhonnell am y fryngaer heddiw. Lleoliad cyfeiriad grid SH701753.
Math | bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2587°N 3.9488°W |
Cod OS | SH70107530 |
Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Dinorwig; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).
Codwyd y gaer rywbryd yn Oes yr Haearn. Roedd y gaer yn nhiriogaeth llwyth yr Ordovices, a cheir tystiolaeth sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio trwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru.
Amddiffynid Braich-y-Dinas gan gyfres o dri mur trwchus (9 troedfedd yn achos y mur allanol), ac eithrio uwchben y llethrau gogleddol oedd yn disgyn yn syth i'r môr. Cafwyd olion tua 90 o gytiau crwn cynhanesyddol y tu mewn i'r muriau. Roedd ffynnon uchel, ger un o'r tair carnedd oedd ar gopa'r mynydd, yn cyflenwi dŵr i'r safle.
Darganfuwyd crochenwaith syml, troellau carreg, pinau gwallt a darnau o ractalau efydd, ynghyd â darnau o addurnwaith amrywiol ac offer haearn ar y safle.
Mae'r ardal o rosdir eang rhwng Penmaenmawr a mynydd Tal-y-Fan, i'r de o safle'r fryngaer, yn frith ag olion a henebion cynhanesyddol, gan gynnwys Y Meini Hirion (cylch cerrig Neolithig), bryngaer Dinas a nifer o garneddi. Rhedai hen lwybr cynhanesyddol pwysig o safle Llanfairfechan heddiw i gyfeiriad Conwy heibio i'r fynediad i Fraich-y-Dinas. Byddai'r gaer ei hun yn wylfa ardderchog i gadw golwg ar y llwybr hwnnw a'r llwybr cynhanesyddol arall dros Fwlch-y-Ddeufaen gerllaw (llwybr a ddefnyddwyd gan y Rhufeiniaid ar gyfer eu ffordd o Gaer i Segontiwm.
Ceir disgrifiadau o Fraich-y-Ddinas gan hynafiaethwyr cynnar megis William Camden a Thomas Pennant, ond yn anffodus nid ydynt yn ddigon eglur a manwl i fod o lawer o ddefnydd. Roedd pob un o'r awduron hynny'n synnu at faint y fryngaer. Ceir y disgrifiad cynharaf a mwyaf trawiadol gan Syr John Wynn o Wydir, ond prin y gellir derbyn ei honiad fod y gaer yn ddigon mawr i ddal 20,000 o bobl!
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Braich-y-Dinas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.