Crochenwaith yw pethau a wneir o glai arbennig sy'n cael ei grasu mewn ciln i'w galedu.
Gellir defnyddio'r dechneg yma i wneud pob math o bethau. Mae natur y crochenwaith yn amrywio yn ôl y math ar glai a ddefnyddir, ac felly yn aml mae gan adral arbennig ei math nodweddiadol ei hun o grochenwaith.
Yn wreiddiol, llunid ffurf yr eitem oedd i'w gynhyrchu o'r clai â llaw yn unig. Yn ddiweddarac h, dalblygodd y defnydd o olwyn crochennydd. Yr eitemau crochenwaith cynharaf y gwyddir amdanynt yw ffigyrau dynoil bychain sy'n dyddio o tua 29,000–25,000 CC. Yr enghreifftiau cynharaf o lestri crochenwaith yw rhai sydd wedi eu darganfod yn Japan tua 10,500 CC. Ymddengys fod y dulliau o gynhyrchu crochenwaith wedi eu darganfod yn annibynnol mewn sawl rhan o'r byd.
Dyfeisiwyd olwyn y crochennydd ym Mesopotamia rhwng 6,000 a 4,000 CC. Roedd hyn yn golygu fod modd cynhyrchu llawr mwy o grochenwaith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Crochenwaith, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.