Peiriant neu feddalwedd cyfrifiadur yw peiriant cyfieithu sy'n cyfieithu o un iaith i iaith arall.
Gellir eu defnyddio i ddehongli yn fras testun o iaith estron. Roedd eu defnyddioldeb yn gyfyngedig iawn yn y n, gan eu bod fel rheol ymhell o fod yn fanwl gywir, ond maen nhw'n gryn well heddiw. Nid yw'r peiriannau yn aml yn gallu cysidro cyd-destun wrth gyfieithu, a chollir nifer o elfennau megis cenedl enwau wrth gyfieithu. Defnyddir y peiriannau weithiau i ysgrifennu at bobl drwy'r byd neu greu erthyglau gwyddoniadur heb angen meddu ar unrhyw wybodaeth o'r iaith dan sylw.
Peiriannau mecanyddol cymhleth oedd y peiriannau cyfieithu cynnar. Babelfish yw'r peiriant cyfieithu enwocaf heddiw. Daw'r enw o'r pysgodyn Babel yn llyfrau ffuglen wyddonol y nofelydd Douglas Adams. Yn ôl y stori, mae'n rhaid rhoi'r pysgodyn yn y glust er mwyn deall popeth sy'n cael ei ddweud mewn pa iaith bynnag.
Mae'r allbwn o'r peiriannau cyfieithu wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Google Translate yn enghraifft o beiriant cyfieithu ar-lein.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Peiriant cyfieithu, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.