Math o gerddoriaeth sy'n hanu o Jamaica yw Ska, a ddaeth i'r amlwg yn gyntaf yn ystod y 1950-60au.
Cerddoriaeth ydyw sy'n cyfuno dylanwadau Sbaenaidd/Caribïaidd gyda rhythmau Affricanaidd. Mae'r pwyslais ar yr 'off-beat' bob tro h.y. mae'n groes-acennog iawn.
Ceir tri chyfnod o Ska:
1. Jamaica; 1960au - Cerddoriaeth debyg i'r hyn a adnabyddir heddiw fel Reggae, gydag artistiaid blaenllaw fel Prince Buster, Skatalites ar Maytals.
2. Lloegr; 1980au - Caiff y cyfnod hwn hefyd ei adnabod fel 2 Tone, ar ôl y cwmni recordiau (2 Tone) a oedd yn flaenllaw gyda'r bandiau hyn. Roedd y sin wedi'i lleoli yn bennaf yng Nghoventry, ac roedd y gerddoriaeth yn gyflym iawn gyda dylanwadau pyncaidd. Ymysg y prif artistiaid roedd The Specials, The Selecter, Madness a Bad Manners. Roedd y bandiau'n hoffi gwneud testun caneuon yn wleidyddol, gan fod yn wrth-hiliaeth. Mae'r glasur 'Ghost Town' gan Y Specials yn nodi cyfnod 2 Tone a dechrau cyfnod o derfysg yn Lloegr. Yn yr iaith Gymraeg, dilynwyd yr un arddull gan grŵp Y Ficar o'r Felinheli.
3. California; 1995+ - Roedd y bandiau yma'n cymysgu fwy gyda dylanwadau pyncaidd, gan ddefnyddio llawer o ystumio (distortion) yn eu caneuon. Doedd y sin ddim yn amlwg iawn, heblaw am fand No Doubt a ddaeth yn un o fandiau enwoca'r byd wedi'r albwm 'Tragic Kingdom'. Ymysg y bandiau eraill roedd Reel Big Fish, Less Than Jake a'r Mighty Mighty Bosstones.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ska, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.