Thomas Gwynn Jones

Bardd, nofelydd, dramodydd, ysgolhaig a newyddiadurwr oedd T.

Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref 1871 – 7 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn ac yn ffigwr allweddol yn lenyddiaeth Gymraeg, ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau llên gwerin yn hanner cyntaf yr 20g. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg. Cafod ei eni yn Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw), a'i gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn.

Thomas Gwynn Jones
Thomas Gwynn Jones
Ganwyd10 Hydref 1871 Edit this on Wikidata
Betws-yn-Rhos Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mawrth 1949 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, llyfrgellydd, bardd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantArthur ap Gwynn Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i Issac a Jane Jones. Priododd Margaret Jane Davies yn 1899.

Bywgraffiad

Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn Ninbych ac Abergele. Daeth yn is-olygydd Baner ac Amserau Cymru (Y Faner) yn 1890. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr Rhyddfrydol Thomas Gee sy'n ddrych i'w oes yn ogystal â'i waith. Yn 1894 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i Isaac Foulkes. Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar Yr Herald a'r Caernarvon and Denbigh Herald.

Bu wedyn yn olygydd ar Bapur Pawb a chyfranodd nifer o storïau i'r papur. Yn 1905, cyhoeddodd y stori Enaid Lewys Meredydd: Stori am y Flwyddyn 2002 mewn penodau dros sawl rhifyn o Papur Pawb. Mae'r ysgrif hwn yn debygol o fod yr enghraifft cynharaf o nofel wyddonias yn y Gymraeg. Ail-gyhoeddwyd y nofel gan wasg Melin Bapur yn Ebrill 2024.

Yn 1905, treuliodd sawl mis yn yr Aifft - Alexandria a Chairo - i geisio lleddfu diagnosis o'r diciâu. Yn 1908 bu'n o sylfaenwyr Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon.

Aeth i weithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn 1909 ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn bu'n ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1919 daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw hyd at ei ymddeoliad yn 1937.

Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 am ei awdl Ymadawiad Arthur, a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909.

Anrhydeddwyd ef â D.Lit. Prifysgol Cymru a Phrifysgol Iwerddon, ill dau yn 1938. Roedd yn wrthwynebydd cadarn yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i Brydain yn y rhyfel.

Oriel

Llyfryddiaeth ddethol

Llyfrau Chyhoeddiadau T. Gwynn Jones

Barddoniaeth

(Dim ond casgliadau a ddetholwyd gan Gwynn Jones ei hun yn ystod ei fywyd a restrir yma)

Nofelau (Detholiad)

  • Gwedi Brad a Gofid (1898)
  • Camwri Cwm Eryr (1899)
  • Gorchest Gwilym Bevan (1899)
  • Rhwng Rhaid a Rhyddid (1901)
  • Merch y Mynydd, neu Siwrneuon y Sipswn (1903-04)
  • Hunangofiant Prydydd (1905)
  • Enaid Lewis Meredydd (1905)
  • Gorchestion John Homer (1907/1923)
  • Lona (1908/1923)

Dramâu

  • Caradog yn Rhufain (Wrecsam, 1914). [Drama]
  • Dafydd ap Gruffydd (Aberystwyth, 1914). [Drama]
  • Tir na N-óg (Caerdydd, 1916). [Drama]
  • Dewi Sant (Wrecsam, 1916). [Drama]
  • Y Gloyn Byw (Y Drenewydd, 1922). [Drama]
  • Anrhydedd (Caerdydd, 1923). [Drama]
  • Y Gainc Olaf (Wrecsam, 1934). [Drama]

Cyfieithiadau

Eraill

  • Y Dwymyn, 1934–35 (Caerdydd, 1972).
  • Dylanwadau (Bethesda, 1986).
  • Tudur Aled, (gol.) T. Gwynn Jones, Gwaith Tudur Aled (Caerdydd, 1926). [Golygiad mewn dwy gyfrol o gerddi Tudur Aled.]
  • Welsh Folklore and Folk Custom (Llundain, 1930). [Astudiaeth arloesol o lên gwerin Cymru.]
  • Marged Enid Griffiths, (gol.) T. Gwynn Jones, Early Vacation in Welsh (Caerdydd, 1937).
  • Adolygiad/au: T. Gwynn Jones, Y Faner (17.2.89), 14.
  • T. P. Ellis, Dreams and memories (Y Drenewydd, 1936), gyda T. Gwynn Jones, ‘Foreward’, t. Vii.
  • Astudiaethau (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau]
  • Beirniadaeth a Myfyrdod (Wrecsam, 1935). [Ysgrifau]
  • Brethyn Cartref (Caernarfon, 1913). [Straeon]
  • Peth Nas Lleddir (Aberdâr, 1921).
  • Rhieingerddi’r Gogynfeirdd (Dinbych, 1915). [Astudiaeth o waith y Gogynfeirdd.]
  • Cymeriadau (Wrecsam, 1933). [Ysgrifau]
  • Detholiad o Ganiadau (Y Drenewydd, 1926).
  • Cerddi Hanes (Wrecsam, 1930).
  • Gwlad y gân (Caernarfon, 1902). [Cerddi]
  • Manion (Wrecsam, 1902).
  • ‘Rhagymadrodd’, yn (casg.) W. S. Gwynn Williams, Rhwng Ddoe a Heddiw: Casgliad o Delynegion Cymraeg, (Wrecsam, 1926), tt. 13–18
  • Emrys ap Iwan: Cofiant (Caernarfon, 1912). [Cofiant]
  • Llenyddiaeth y Cymry: Llawlyfr i Erfydwyr (Dinbych, 1915). [Hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.]
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Ceiriog (Wrecsam, 1927).
  • Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd ganrif ar bumtheg (Caernarfon, 1920)
  • (Casg. a gol.) T. Gwynn Jones, Y Gelfyddyd Gwta (Aberystwyth, 1929).
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Talhaiarn (Aberystwyth, 1930).
  • Brithgofion (Llandybïe, 1944). [Darn o hunangofiant.]
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, O Oes i Oes (Wrecsam, 1917).
  • Llyfr Gwion Bach (Wrecsam, 1924).
  • Plant Bach Tŷ Gwyn (Caerdydd, 1928).
  • Yn Oes yr Arth a’r Blaidd (Wrecsam, 1913).
  • Dyddgwaith (Wrecsam, 1937).
  • ‘Lluniau o Gawr y Llenor’, Barddas, rhif. 212–213 (Rhagfyr 1994–Ionawr 1995), t. 47.
  • ‘Rhagair’ yn Ioan Brothen, (gol.) John W. Jones, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942).
  • T. Gwynn Jones ac Arthur ap Gwynn, Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg (Caerdydd, 1950).
  • (Gol.) T. Gwynn Jones, Troeon Bywyd (Wrecsam, 1936).
  • Cerddi ’74 (Llandysul, 1974).
  • Bardism and Romance: a Study of the Welsh Literary Tradition (Llundain, 1914). [Astudiaeth]
  • Modern Welsh Literature (Aberystwyth, 1936).
  • Casgliad o eiriau llafar Dyffryn Aman (Caerdydd, 1931).
  • ‘Rhagair’, yn (gol.) John W. Jones, Yr Awen Barod: cyfrol goffa Gwilym Deudraeth (1863–1940) (Llandysul, 1943).
  • Y Dwymyn, 1934–35 (Aberystwyth, 1944). [Cerddi]
  • Cultural Basis: a study of the Tudor period in Wales (, 1921).
  • Llenyddiaeth Wyddelig (Lerpwl, 1916).
  • Cân y Nadolig (Llangollen, 1945).
  • The Culture and Tradition of Wales (Wrecsam, 1927).
  • ‘Rhagair’ yn D. Emrys James, Odl a Chynghanedd (Llandybïe, 1961).
  • Cofiant Thomas Gee (Dinbych, 1913). [Un o'r cofiannau mwyaf trwyadl a welwyd yn y Gymraeg, ar fywyd a chyfnod y cyhoeddwr Thomas Gee.]
  • (Casg.) Llen Cymru (Caernarfon, 1921).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 2 (Caernarfon, 1922).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 3 (Aberystwyth, 1926).
  • (Casg.) Llen Cymru: Rhan 4 (Aberystwyth, 1927).
  • Homerus, (cyf.) R. Morris Lewis gydag ychwanegiadau, rhagair ac anodiadau T. Gwynn Jones, Iliad Homer, (Wrecsam, 1928).
  • Daniel Owen, 1836–1895 (Caerdydd, 1936).
  • Daniel Owen, (gol.) T. Gwynn Jones, Profedigaeth Enoc Huws (Wrecsam, 1939).
  • Y Cerddor (Aberystwyth, 1913).
  • Am ragor, gweler A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Casg.) Owen Williams (Wrecsam, 1938)
  • Eglwys y Dyn Tlawd (1892)

Beirniadaeth ac astudiaethau

  • Owen Williams (casg.) , A Bibliography of Thomas Gwynn Jones (Wrecsam, 1938)
  • "Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones", Y Llenor cyf. 28 (Haf 1949)
  • W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones (Caerdydd, 1970)
  • D. Ben Rees, Pumtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif (Pontypridd, 1972)
  • Derec Llwyd Morgan, Barddoniaeth Thomas Gwynn Jones: Astudiaeth (Llandysul, 1972)
  • David Jenkins, Thomas Gwynn Jones - Cofiant (Gwasg Gee, 1973)
  • D. Hywel E. Roberts, Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones (Caerdydd, 1981)
  • Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones (Llandybïe, 1982)
  • David Jenkins (gol.), Bro a Bywyd: T. Gwynn Jones 1871-1949 (Caerdydd, 1984)
  • Alan Llwyd, Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones, 1871-1949 (Aberystwyth, 2019)

Nodiadau

Cyfeiriadau

Thomas Gwynn Jones  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod T. Gwynn Jones ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Tags:

Thomas Gwynn Jones BywgraffiadThomas Gwynn Jones OrielThomas Gwynn Jones Llyfryddiaeth ddetholThomas Gwynn Jones NodiadauThomas Gwynn Jones CyfeiriadauThomas Gwynn Jones10 Hydref1871194920g7 MawrthAlmaenegBarddBetws yn RhosConwy (sir)DramaGroegGwyddelegLlenyddiaeth GymraegLlên gwerinNofelSaesnegSir Ddinbych

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Cyflafan y beirddEmojiDemograffeg CymruRhestr cerddorion R&BYr AmerigDeddf UnoBaskin-RobbinsAnkstmusikFanny HillJohn DemjanjukSiot dwadRiders of The Pony ExpressMichael Cristofer50 Cusan CyntafGwlad IorddonenGwleidydd2009Ora e per sempreEsperantoAnilingus1960auAradrYsgol Gymraeg AberystwythRhyddfrydiaethWeißbier Im BlutY Cefnfor TawelNicotinaTudur OwenRhufain hynafolCredydEdward V, brenin LloegrGweriniaethBolsieficImperialaethArthurdreigiau gwentIestyn GarlickMain PageAberth MorwynRhywedd amrywiolGramadeg Lingua Franca NovaErnest Goes to CampA Place in The Stars638Baner y Deyrnas UnedigIŵl CesarChipstead, CaintMolashAdnabyddwr gwrthrychau digidolGwlad yr IâLingua Franca NovaSystem of a DownRhian MorganJanu SirsasanaErotigUndeb credydKatharina Und Ihre Wilden HengsteGwladSbaenFfrangegSex and The Single GirlRhestr Cymry enwogEingl-SacsoniaidEdward Tegla DaviesRiders of Border BaySwffïaeth2 Awst1978East FarleighShigeharu UekiHTMLCiciau o'r smotyn24 (cyfres deledu)BitterballenParamount PicturesCanser serfigol🡆 More