Cadwyn o fryniau yng ngogledd Lloegr yw'r Pennines neu'r Penwynion.
Dywedir yn aml eu bod yn ffurfio "asgwrn cefn Lloegr", gan ffurfio cadwyn ddidor o fryniau sy'n ymestyn o Ardal y Copaon yn Swydd Derby, trwy'r Dyffrynnoedd Swydd Efrog, rhannau o Fanceinion Fwyaf, Rhosdiroedd Gorllewin Pennine yn Swydd Gaerhirfryn a bryniau Cumbria i Fryniau Cheviot ar y ffin rhwng Lloegr a'r Alban. I'r gogledd o Fwlch Aire mae'r Pennines yn ymrannu gyda changen yn ymestyn i gyfeiriad y gorllewin i Swydd Gaerhirfryn a Fforest Bowland, ar ymyl Mynyddoedd Cumbria (Ardal y Llynnoedd) a changen arall i Fryniau Rossendale. Ffurfia'r Pennines talgylch dŵr pwysig gyda nifer o gronfeydd dŵr ym mhennau'r prif gymoedd. Mae Gogledd y Pennines a Nidderdale yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, a gorwedd rhannau o'r Pennines ym Mharc Cenedlaethol Ardal y Copaon, Parc Cenedlaethol yr Yorkshire Dales a Parc Cenedlaethol Northumberland. Rhed Llwybr y Pennines (Pennine Way) ar hyd y gadwyn. Eu hyd yw tua 250 milltir (402 km). Cross Fell, Cumbria, yw'r copa uchaf (2930').
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 893 metr |
Cyfesurynnau | 54.7028°N 2.4867°W |
Bu ardal y Pennines yn rhan o diriogaeth yr Hen Ogledd a cheir nifer o enwau lleoedd sy'n dyst i fodolaeth y Frythoneg yno, e.e. Penrith, Cumbria.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pennines, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.