Gwyddoniadur aml-gyfrol wedi ei ysgrifennu yn yr iaith Saesneg yw Encyclopædia Britannica.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yng Nghaeredin yn y flwyddyn 1768, felly'n ei wneud yn wyddoniadur henaf y byd sydd yn parhau i fod mewn print. Yn bresennol, mae Britannica ar ei 15fed argraffiad, ond caiff adolygiad newydd ei gyhoeddi bob blwyddyn i gadw ei gynnwys yn weddol cyfoes. Dros y blynyddoedd, mae Britannica wedi gwneud enw ymysg y dysgiedig fel gwyddoniadur hynod o ysgolheidraidd, yn rhannol oherwydd fod adrannau o'r gwyddoniaduron wedi eu hysgrifennu gan nifer o unigolion awdurdodol, megis enwogion academaidd fel Albert Einstein, Marie Curie a Leon Trotsky. Er hynny, mae Britannica wedi bod mewn trafferth ers dyfodiad y rhyngrwyd a gwyddoniaduron rhyngweithiol, sydd wedi lleihau cyfran marchnad Britannica yn sylweddol a gorfodi y cyhoeddwyr i leihau ei brîs. Maent hefyd wedi rhyddhau nifer o fersiynau ar gyfrwng CD/DVD a gwasanaeth ar-lein i gystadlu gyda gwyddoniaduron modern fel Encarta a Wicipedia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Encyclopædia Britannica, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.