System a leolir ar y we sy'n defnyddio cod QR i ddosbarthu erthyglau Wicipedia i ddefnyddwyr yn eu dewis iaith yw QRpedia.
Gall y codau QR gael eu creu'n hawdd i gysylltu'n uniongyrchol ag unrhyw Dynodwr Adnoddau Unffurf (Uniform Resource Identifier, URI), ond mae'r system QRpedia yn cynnig ymarferoldeb ychwanegol.
Crëwyd QRpedia gan Roger Bamkin, cadeirydd Wiki UK, a chafodd ei harddangos am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2011. Fe'i defnyddir ar hyn o bryd gan nifer o sefydliadau gan gynnwys amgueddfeydd yng ngwledydd Prydain, yr UDA, a Sbaen. Yng Nghymru, y prosiect cyntaf i ddefnyddio'r codau hyn ydy Pedia Trefynwy ac mae'r erthyglau Cymraeg ar lefydd, gwrthrychau, a phobl Trefynwy yn y broses o gael eu creu (Ionawr 2012).
Trosgwyddwyd perchnogaeth QRpedia i Wicimedia DU yn 2013. Mae'r holl ystadegau o ddefnyddwyr y côd, drwy'r byd, yn cael eu coladu ar wefan a gynhelir gan WM DU Archifwyd 2020-09-24 yn y Peiriant Wayback. ers 2012.
Pan fo defnyddiwr yn sganio côd QR QRpedia ar eu dyfais symudol (ffôn clyfar fel arfer), mae'r ddyfais yn dehongli y côd QR fel Lleolydd Adnoddau Unffurf (URL) gan ddefnyddio'r enw parth (Saesneg: domain name) "qrwp.org" gyd'r llwybr (darn olaf), sef teitl yr erthygl Wicipedia. Mae hefyd yn danfon cais am yr erthygl a nodwyd gan yr URL at QRpedia Web server, yn ogystal â danfon gosodiad ieithyddol y ddyfais.
Mae server QRpedia wedyn yn defnyddio API Wicipedia i ddarganfod os oes fersiwn o’r erthygl wicipedia benodol yn yr iaith mae’r ddyfais yn ei ddefnyddio, a’u harddangos mewn fformat symudol priodol. Os nad oes fersiwn o’r erthygl ar gael yn y iaith a ddewiswyd, mae server QRpedia yn cynnig dewis o’r ieithioedd sydd ar gael neu gyfieithiad gan Google translate.
Yn y modd hwn gall un côd QR gyflenwi’r un erthygl mewn nifer o ieithoedd gwahanol, hyd yn oed pan nad yw’r amgueddfa'n medru cynnig eu cyfieithiadau ei hunain. Yn ogystal mae QRpedia yn cofnodi ystadegau defnyddwyr.
Mae côd y prosiect ar gael i'w ailddefnyddio dan drwydded MIT License.
Dyfeisywd QRpedia gan Roger Bamkin a Terence Eden, ymgynghorydd we symudol, a gafodd ei ddatgelu ar y 9fed o Ebrill 2011 mewn digwyddiad Backstage Pass Derby Museum and Art Gallery's, sef rhan o gydweithrediad GLAM/Derby rhwng yr amgueddfa a Wicipedia, yn ystod y cyfnod hwn creuwyd dros 1,200 erthygl Wicipedia, mewn nifer o ieithoedd.
Mae côd y prosiect ar gael i'w ailddefnyddio dan drwydded MIT License.
Er ei greu yng ngwledydd Prydain gall QRpedia gael ei ddefnyddio mewn unrhyw leoliad lle mae ffôn y defnyddiwr yn derbyn signal data ag, ers Medi 2011 mae’n cael ei ddefnyddio yn:
Dydy QRpedia ddim yn cael ei gyfyngu i amgueddfeydd a galariau. Er enghraifft, mae’r Occupy movement yn ei ddefnyddio are eu posteri ymgyrchu.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article QRpedia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.