Mae Gwasg Prifysgol Rhydychen (Saesneg: Oxford University Press; talfyriad arferol, OUP) yn un o brif gyhoeddwyr academaidd Lloegr ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd.
Mae'n un o adrannau Prifysgol Rhydychen ac yn cyhoeddi nifer o lyfrau safonol ar ystod eang o bynciau academaidd ynghyd â'r gyfres o glasuron llenyddiaeth, World Classics. Erbyn heddiw mae'r wasg wedi ymledu ymhell y tu hwnt i Loegr gyda changhennau pwysig mewn sawl gwlad ledled y byd, yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Awstralia ac India, sy'n cyhoeddi eu llyfrau eu hunain a gyfer y gwledydd hynny.
Mae'r wasg yn cyhoeddi sawl cyfrol o ddiddordeb Cymreig, yn cynnwys y gyfrolau poblogaidd Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg a The Oxford Book of Welsh Verse in English.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwasg Prifysgol Rhydychen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.