Rhif cofrestru a ddefnyddir yn y fasnach lyfrau yw'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN o'r Saesneg International Standard Book Number).
Fe'i defnyddir yn helaeth gan siopau llyfrau a llyfrgelloedd er enghraifft. Rhoddir rhif arbennig i bob llyfr a gyhoeddir, ond nid i gyfnodolion (defnyddir ISSN).
Rhoddir un Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol unigol wedi ei gofrestri i bob llyfr, a dydy'r rhif ddim yn newid pan adargraffir - heblaw mewn argraffiad newydd â testun wedi newid yn sylweddol - ond mae rhif llyfr clawr meddal yn wahanol i un clawr caled. Beth bynnag, nid oes Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol ar bob llyfr am nad yw llawer o wasgau bychain yn cofrestru eu llyfrau.
Roedd pobl yn Ewrop yn ystyried cyflwyno rhif cofrestru llyfrau ers y 1960au ac ym 1968 cychwynnodd y Sefydliad Safonau Rhyngwladol (ISO) weithgor i gynllunio rhif felly. Ym 1972 daeth ISO 2108 ar gyfer y Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol i rym.
Cyn 2007 defnyddiwyd rhif cofrestru wahanol yn Unol Daleithiau, ond ers 1 Ionawr 2007 newidiodd hynny gyda'r cynllun i ddefnyddio rhifau hirach 13 digid (safon EAN-13).
Mae'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol yn cynnwys côd ar gyfer gwlad, gwasg a teitl y llyfr yn ogystal â swm prawf (checksum). Fel arfer, mae cysylltnod (-) rhwng pob côd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.