Roedd Phil Bennett (24 Hydref 1948 – 12 Mehefin 2022) yn gyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 29 o gapiau dros Gymru rhwng 1969 a 1978, fel maswr yn bennaf.
Phil Bennett | |
---|---|
Ganwyd | Phil Bennett 24 Hydref 1948 Felin-foel |
Bu farw | 12 Mehefin 2022 Felin-foel |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 170 centimetr |
Pwysau | 72 cilogram |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | maswr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed Bennett yn Felinfoel a chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Lanelli yn 1966. Bu'n gapten ar dîm Llanelli am chwech tymor yn olynol rhwng 1973 a 1979. Chwaraeodd 16 tymor i Lanelli i gyd, gan sgorio mwy na 2,500 o bwyntiau mewn dros 400 gêm. Treuliodd 16 mlynedd ym Mharc y Strade gan chwarae 413 o weithiau i'r Scarlets cyn dod yn llywydd anrhydeddus i'r rhanbarth wedi iddo ymddeol.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru ar 22 Mawrth 1969 yn erbyn Ffrainc gan ddod ar y maes i gymeryd lle Gerald Davies. Chwaraeodd mewn nifer o safleoedd ar y mas, gan cynnwys cefnwr cyn ennill ei le fel maswr Cymru. Fel olynydd Barry John yn y safle yma, roedd ganddo dasg anodd, ond datblygodd i fod yn un o'r maswyr gorau yn hanes y gêm. Roedd yn gapten Cymru pan enillwyd y Goron Driphlyg ddwywaith a'r Gamp Lawn unwaith. Yn ei 29 gêm dros Gymru sgoriodd 166 o bwyntiau.
Aeth ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1974, a sgoriodd 103 o bwyntiau yn ystod y daith. Yn ddiweddarach, ef oedd capten y Llewod ar eu taith i Seland Newydd yn 1977.
Ysgrifennodd hunangofiant dan y teitl Everywhere for Wales, ac wedi ymddeol bu'n sylwebydd rygbi ar gyfer BBC Cymru. Bu hefyd yn lywydd clwb rhanbarthol y Scarlets.
Ym mis Tachwedd 2005, fe gafodd ei dderbyn i Oriel yr Anfarwolion Rygbi Rhyngwladol, ac yn 2007 fe gafodd ei gynnwys yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Yn Ebrill 2022, dadorchuddiwyd cerflun o Bennett ym mhentre Felinfoel - ar Ffordd Millfield (ochr draw i Eglwys y Drindod). Daeth y syniad o greu'r cerflun gan ysgrifennydd clwb rygbi Felinfoel, Clive Richards. Cododd y gymuned £7,500 tuag at greu a gosod y cerflun yn ei le.
Cafwyd teyrngedau i farwolaeth Phil Bennett gan bobl o bob cefndir. Yn eu mysg oedd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, Dafydd Iwan a'i alwodd yn "athrylith diymhongar", a chyn-chwaraewr Lloegr, Brian Moore a'i alwodd yn "true legend of rugby and a humble and generous man".
Gwobrau | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Mervyn Davies | Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1977 | Olynydd: Johnny Owen |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Phil Bennett, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.