Mae golff yn gêm pêl-a-chlwb i ddau neu bedwar o chwareuwyr sy'n cael ei chwarae ar gwrs golff.
Credir ei bod yn dod o'r Alban yn wreiddiol. Mae pobl wedi bod yn chwarae golff o ryw fath ers y 15g. Erbyn heddiw mae'n un o'r gemau torfol mwyaf poblogaidd yn y byd gorllewinol.
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon, sport with racquet/stick/club, chwaraeon olympaidd |
---|---|
Math | chwaraeon peli, sport with racquet/stick/club, chwaraeon olympaidd |
Gwlad | Yr Alban |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae pryderon amgylcheddol wedi codi ynglŷn â defnydd tir am golff. Ymysg y pryderon penodol, yw effaith y gwrtaiith a chwynladdwyr a defnyddir, y maint o ddŵr sydd ei angen i gynnal y gwair, a dinistr gwlyptir neu ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol wrth adeiladu cyrsiau golff. Yn ogystal, mae ungnydedd di-gynhenid yn didymu bioamrywiaeth. Bu ymdrechion yn ddiweddar i leihau'r defnydd o ddŵr a chemegion wrth gynnal cyrsiau golff, ond erys lawer o bryderon.
Mewn rhai rhannau o'r byd, mae ymdrechion i adeiladu cyrsiau golff wedi arwain at wrthdystio sylweddol, ynghyd â fandaliaeth a thrais o'r ddwy ochr. Er fod golff yn mater bach o'i gymharu â materion moesol eraill yn ymwneud â thir, mae iddo arwyddocád arbennig i lawer, gan iddo fod yn gysylltiedig â chyfoeth ac imperialaeth gorllewinol. Mae gwrthsefyll ehangiad golff yn un o amcanion mudiadau diwygiad-tir yn y Philipinau ac Indonesia.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Golff, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.