Tref yng nghymuned Llwchwr, sir Abertawe, Cymru, yw Casllwchwr neu Llwchwr (Saesneg: Loughor).
Saif ar aber Afon Llwchwr. Mae ganddi boblogaeth o 9,080 (2001). Ers 1969 bu yma orsaf bad achub annibynnol, gyda chwch blaenllaw iawn (o ran technoleg) sef Ribcraft 5.85 m. Mae yma ddwy ysgol gynradd: Ysgol Gynradd Tre Uchaf ac Ysgol Gynradd Trellwchwr. Mae yma hefyd adran o Brifysgol Abertawe.
Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llwchwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6626°N 4.0646°W |
Cod OS | SS573980 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au | Carolyn Harris (Llafur) |
Roedd caer Rufeinig yma o'r enw Leucarium. Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael daeth Casllwchwr yn rhan o deyrnas Gŵyr. Mae'n bosibl mai Casllwchwr oedd canolfan wleidyddol a gweinyddol hen gantref Eginog yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Adeiladwyd castell Normanaidd ar safle'r hen gaer Rufeinig yn 1099 a chipiwyd hi gan y Cymry yn 1115, 1136 ac yn 1213.
Ymwelodd Gerallt Gymro â Chasllwchwr yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Ar un adeg roedd porthladd yma ond yn yr 20g y prif ddiwydiant oedd tun a dur.
Rhywle rhwng Casllwchwr ac Abertawe yn Ionawr 1136, ymladdwyd brwydr enfawr gyda thros 500 o'r Normaniaid yn cael eu lladd; tua'r un adeg ymosododd Gwenllian ar Gastell Cydweli yn aflwyddiannus.
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Casllwchwr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.